Cyfiawnder yr Hinsawdd yn ystod y Pythefnos Masnach Deg
Rhagfyr 13, 2021Ar gyfer Pythefnos Masnach Deg 2022 gwnaethom barhau i ganolbwyntio ar gyfiawnder yr hinsawdd a’r heriau cynyddol y mae’r newid yn yr hinsawdd yn eu rhoi i ffermwyr a gweithwyr yn y cymunedau y mae Masnach Deg yn gweithio gyda nhw.
Pythefnos Masnach Deg 2022: 21 Chwefror – 6 Mawrth
Gwnaeth Pythefnos Masnach Deg canolbwyntio ar gyfiawnder yr hinsawdd a’r heriau cynyddol y mae’r newid yn yr hinsawdd yn eu rhoi i ffermwyr a gweithwyr yn y cymunedau y mae Masnach Deg yn gweithio gyda nhw. Mae argyfwng yr hinsawdd yn fygythiad uniongyrchol a chynyddol ac mae’r rheiny sy’n byw mewn gwledydd sy’n agored i niwed oherwydd yr hinsawdd sy’n newid eisoes yn gweld ei effaith o sychder a chlefydau cnydau i lifogydd, tonnau gwres a chynaeafau sy’n lleihau.
Mae’r ffeithiau’n syml. Effeithir ar y ffermwyr a’r gweithwyr mewn gwledydd incwm isel a chanolig, sydd wedi gwneud y lleiaf i gyfrannu at y newid yn yr hinsawdd, yn anghyfartal. Dyma maen nhw’n ei ddweud:
- Y newid yn yr hinsawdd yw un o’u heriau mwyaf nawr
- Mae prisiau isel ar gyfer eu cnydau’n golygu eu bod yn ei chael hi’n anodd brwydro’n ôl
- Gyda mwy o arian drwy Fasnach Deg, maent yn teimlo fel bod ganddynt fwy o gyfle i ddiwallu eu hanghenion beunyddiol a mynd i’r afael â’r heriau oherwydd y newid yn yr hinsawdd.
Mae tlodi parhaus mewn cymunedau ffermio’n ei gwneud hi’n fwyfwy anodd i ymdopi ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.
Yn ddiweddar, mae’r DU wedi cynnal COP26, uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ynghylch y newid yn yr hinsawdd a sut mae gwledydd yn bwriadu mynd i’r afael ag ef. Gwnaeth dirprwyaeth o ffermwyr Masnach Deg fynychu a gwnaeth dros 33,000 o ymgyrchwyr ymuno ag 1.8m o ffermwyr Masnach Deg a gweithwyr wrth gefnogi ei her Byddwch yn Deg gyda’ch Addewid yr Hinsawdd i arweinwyr y byd.
“Casgliad rhwystredig i uwchgynhadledd llawn gobaith.” Mary Kinyua, Ffermwr blodau Masnach Deg a Phennaeth Dirprwyaeth Masnach Deg yn COP26
Ond gwnaeth y gwledydd cyfoethocaf wthio’u hen addewid o $100bn y flwyddyn i’r gwledydd mwyaf agored i niwed oherwydd y newid yn yr hinsawdd yn ôl i 2023. Mae’r cytundeb COP26 yn addo creu Cronfa Trawsnewid Cyfiawnder Gwledig a gwnaeth yr holl genhedloedd gytuno i godi eu hymrwymiadau yn COP27 yn Cairo y flwyddyn nesaf.
Mae angen i weld yr addewidion hynny’n cael eu cadw a’u bod yn cyrraedd y ffermwyr a’r gweithwyr y mae eu hangen arnynt fwyaf. Felly, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar Gyfiawnder yr Hinsawdd drwy gydol 2022.
Ewch i gael cipolwg ar ein tudalen ymgyrch Pythefnos Masnach Deg 2022.