Pythefnos Masnach Deg 2022

Dydd Llun 21st Chwefror – Dydd Sul 6th Mawrth 2022

Ar gyfer Pythefnos Masnach Deg 2022 byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gyfiawnder yr hinsawdd a’r heriau cynyddol y mae’r newid yn yr hinsawdd yn eu rhoi i ffermwyr a gweithwyr yn y cymunedau y mae Masnach Deg yn gweithio gyda hwy.

Pythefnos Masnach Deg 2022: 21 Chwefror – 6 Mawrth

Mae argyfwng yr hinsawdd yn fygythiad unionyrchol cynyddol. Mae ffermwyr a gweithwyr mewn gwledydd incwm isel a chanol, sydd wedi gwneud y lleiaf i gyfrannu at y newid yn yr hinsawdd, yn cael eu heffeithio’n anghyfartal.

Gwnaeth y DU gynnal COP26 yn 2021, sef uwchgynhadledd fyd-eang y Cenhedloedd Unedig ynghylch y newid yn yr hinsawdd a sut mae gwledydd yn bwriadu mynd i’r afael ag ef. Gwnaeth dirprwyaeth o ffermwyr Masnach Deg fynychu a gwnaeth dros 33,000 o ymgyrchwyr ymuno ag 1.8m o ffermwyr Masnach Deg a gweithwyr wrth gefnogi ei her Byddwch yn Deg gyda’ch Addewid yr Hinsawdd i arweinwyr y byd. Ond gwnaeth y gwledydd cyfoethocaf wthio’u hen addewid o $100bn y flwyddyn i’r gwledydd mwyaf agored i niwed oherwydd y newid yn yr hinsawdd yn ôl i 2023.

Mae angen i weld yr addewidion hynny’n cael eu cadw a’u bod yn cyrraedd y ffermwyr a’r gweithwyr y mae eu hangen arnynt fwyaf. Felly, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar Gyfiawnder yr Hinsawdd drwy gydol 2022.

Yn ystod Pythefnos Masnach Deg gwnaethom barhau i gyfrannu at weithgareddau ar-lein Pythefnos Masnach Deg y DU, a gwnaethom weithio gyda rhai o’n cymunedau ar draws y genedl i gynnal eu gweithgareddau eu hunain. Oherwydd y pandemig byd-eang sy’n parhau, ni fydd cynhyrchwyr Masnach Deg yn ymweld â’r DU yn uniongyrchol.

Ein prif digwyddiad:

Mawrth 2, 6:30pm – 7:30pm, Ar-lein. Tocyn am ddim.

Ffasiwn Teg? Sgwrs am ffasiwn, hil a chyfiawnder yr hinsawdd

A wnaethoch golli e? Gwyliwch nawr!

Dal am gefnogi Masnach Deg?

  1. Prynwch nwyddau Masnach Deg – sicrhewch eich bod yn chwilio am y nod Masnach Deg ar gyrch a gwybod eich bod yn helpu cymunedau ym mhedwar ban byd i fyw bywyd tecach. Mae yna siopau Masnach Deg lleol a Traidcraft.
  2. Cofrestrwch – Gallwch danysgrifio i’n cylchlythyr misol am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
  3. Ymunwch – mae yna grwpiau Masnach Deg lleol y gallwch ymuno â nhw ledled Cymru a helpu i hyrwyddo’r symudiad yn eich cymuned.
  4. Rhannwch wybodaeth – Gwyliwch ein digwyddiadau’r hinsawdd a defnyddio adnoddau’r hinsawdd. Caiff rhagor o adnoddau eu rhyddhau dros y misoedd nesaf.

Bob blwyddyn mae Pythefnos Masnach Deg yn rhoi’r cyfle i bobl ledled y DU dathlu cyflawniadau Masnach Deg a dysgu mwy am y gwahaniaeth y mae Masnach Deg yn ei wneud.

Cefnogir Pythefnos Masnach Deg Cymru gan Lywodraeth Cymru a Hub Cymru Africa.