Sadwrn Busnes Bach: Siopa’n lleol, effeithio’n fyd-eang

Rhagfyr 4, 2021

Siopa’n lleol, effaith fyd-eang y Dydd Sadwrn Busnesau Bach hwn

Nod Dydd Sadwrn Busnesau Bach yw annog pobl i siopa mewn busnesau bach a’u cefnogi yn eu cymunedau. Mae Masnach Deg Cymru’n annog hyn drwy ofyn i chi siopa nwyddau Masnach Deg – cefnogi busnesau lleol a grymuso ffermwyr lleol a gweithwyr mewn gwledydd incwm is a chanol.

Dyma rai lleoedd y gallwch siopa i gefnogi hawliau cyfiawnder masnach a chyfiawnder yr hinsawdd ddydd Sadwrn…

 

Jenipher’s Coffi 

Mwynhewch goffi Masnach Deg heb ecsbloetio gyda Jenipher’s Coffi, wedi’i rostio a’i werthu yma yng Nghymru. Pan fyddwch yn prynu Jennifer’s Coffi rydych hefyd yn helpu ffermwyr i gyrraedd eu nod o blannu 25 miliwn o goed erbyn 2025. Mae hynny’n golygu cefnogi ffermwyr wrth gynnal eu bywoliaeth a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae gan Jenipher gysylltiad cryf â Chymru ac mae’n ymweld ar bob cyfle y gall. Gwnaeth Jenipher alw yma ar ei ffordd i siarad yn COP26 yn Glasgow a gwnaeth gwrdd â Masnach Deg Cymru yng Nghaerdydd. Yna aeth Jenipher i Ynys Môn, lle gwnaeth gwrdd ag aelodau amrywiol o Bartneriaeth Masnach Deg Ynys Môn mewn protest hinsawdd yng Nghaergybi.

 

Fair Do’s Siopa Teg

Nid oes rhaid i ffasiwn fod ar draul pobl eraill os byddwch yn prynu nwyddau Masnach Deg. Dewch i Dreganna, Caerdydd i weld casgliad Siopa’n Teg o ddillad moesegol gan Gringos, Ibu Indah ân Namaste. Os nad ydych yn dwlu ar ffasiwn, mae ganddynt amrywiaeth o Fwydydd Masnach Deg a hyd yn oed cardiau Masnach Deg hefyd.

 

The Dragons Garden 

Dyma gyfle i chi ymarfer hunanofal a chynaladwyedd gyda chanhwyllau, arogldarth a sebon a gofal y corff o The Dragons Garden yn Llansadwrn. Gallwch hefyd ymuno â’r chwyldro siocled i ffermwyr, plant a’r amgylchedd lle gallwch fwynhau siocled Divine.

 

Fair and Fabulous 

Paratowch ar gyfer y Nadolig gydag amrywiaeth o nwyddau’r Nadolig gan Fair and Fabulous. Dewiswch addurno gyda chadwyni papur Masnach Deg, peli Nadolig ffelt a papier-mache a wnaed â llaw a chymeriadau bach y Nadolig fel y carw bach hwn

 

Felly, pam Masnach Deg?

Fel prynwyr, rydym yn dueddol o anghofio bod pobl go iawn â storïau y tu ôl i’r cynnyrch rydym yn eu prynu. Dylen ni fod yn cwestiynu cadwyni cyflenwi’r cynnyrch rydym yn eu prynu. Y tro nesaf y byddwch yn penderfynu prynu eitem, meddyliwch am y pethau hyn: beth yw’r amodau gwaith? A dalwyd pris teg i’r cynhyrchwyr am waith teg? A sut mae gwneuthuriad y cynnyrch hwn yn effeithio ar ein planed? Mae Masnach Deg yn defnyddio dull holistig drwy gysylltu cynhyrchwyr a phrynwyr drwy sicrhau bod cadwyni cyflenwi’n fwy tryloyw a darparu dewisiadau gwell ar gyfer siopa’n gyfrifol. Mae Masnach Deg hefyd yn cefnogi datblygiad prosiectau cymuned a arweinir gan gynhyrchwyr, addysg ac iechyd a hawliau dyno li bobl ym mhedwar ban byd. Drwy ddewis Masnach Deg, rydych yn ymuno â chymuned fyd-eang sy’n gweithio gyda’i gilydd i greu byd tecach a gwell – y byd rydym am ei weld. Rhagor o wybodaeth am Fasnach Deg.

Felly, siopwch yn lleol a phrynu nwyddau Masnach Deg y Dydd Sadwrn Busnesau Bach hwn – gan gael effaith leol a byd-eang 🙂