Pythefnos Masnach Deg 2023

Dydd Llun 27th Chwefror – Dydd Sul 12th Mawrth 2023
02.03.2020 Fair Trade event at Portland House, Cardiff Bay Pic: Nick Treharne

Pythefnos Masnach Deg 2023: 27 Chwefror– 12 Mawrth

Ein thema eleni oedd… BWYD!

Mae hyn yn meddwl gall y ffocyws bod ar unrhyw ran o fwyd a Masnach Deg i ddathlu Pythefnos Masnach Deg 2023. Gwnaeth hwn cynnwys, cynhyrchiant bwyd a newid hinsawdd, caffael Masnach Deg neu ddiogelwch bwyd i enwi ond ychydig.

Mae bwyd wrth wraidd Masnach Deg ac yn croestorri gyda newid hinsawdd, rhyw, bywoliaethau a phob agwedd arall o Fasnach Deg. Edrychwch yma am rywle i brynnu bwyd Masnach Deg.

Beth yw Pythefnos Masnach Deg?

Bob blwyddyn mae Pythefnos Masnach Deg yn rhoi’r cyfle i bobl ledled y DU dathlu cyflawniadau Masnach Deg a dysgu mwy am y gwahaniaeth y mae Masnach Deg yn ei wneud.

Cefnogir Pythefnos Masnach Deg Cymru gan Lywodraeth Cymru a Hub Cymru Africa.

Beth gwnaethom ni’n gwneud?

Cysylltiadau Cymunedol: Clwb Swper Masnach Deg

Dydd Gwener, 10 Mawrth, 18:30-21:00.

Oasis Cardiff, 69B Splott Road, Caerdydd, CF24 2BW.

Cawsom ni noson o fwyd a straeon Masnach Deg blasus a gwnaethom ni ddysgu am y bobl sy’n cynhyrchu’r bwyd a’r ddiod rydyn ni’n eu bwyta a’u hyfed bob dydd.

Taith Ffyrdd Masnach Deg Cymru

Dydd Llun, 27 Chwefror, 9:30yb.

Coop Llandeilo, Heol Rhosmaen, Llandeilo SA19 6LU.

Gwnaethom ni cerdded o Coop Llandeilo i Siop Gymunedol Dryslwyn, yn dathlu a thynnu sylw at Masnach Deg ar y ffordd. Gwnaeth pobl ifanc, aelodau’r Coop a’r gymuned ehangach yn ymuno a ni. Mewn partneriaeth gyda Ffyrdd Masnach Deg Cymru a Coop Llandeilo.

Cystadleuaeth Ieuenctid Bro Morgannwg Masnach Deg

Dydd Sul 12 Mawrth: Dyddiad olaf i ddanfon cynigion.

Dydd Gwener 31 Mawrth: Lansiad yr arddangosfa a rhoi’r gwobrwyon.

Am drigolion Bro Morgannwg o dan 25.

Mae Cystadleuaeth Ieuenctid Bro Morgannwg masnach Deg llwyddiannus yn dychwelyd eleni. Y thema eleni yw: Dewiswch Masnach Deg yn awr a helpwch achub ein hoff fwydydd. Crëwch boster, fideo, celf neu gerdd a danfonwch – mae mor syml â hynny. Bydd enillwyr yn ennill gwobr a bydd cynigion yn cael ei harddangos a byddant nhw’n teithio ar draws Bro Morgannwg. Danfonwch eich cynigion i valefairtrade@gmail.com erbyn 12 Mawrth.


Fel bob blwyddyn, gwnaethom partnerio gyda grwpiau cymunedol i redeg digwyddiadau a gwnaethom ymgysylltu â’r cyhoedd a pholisi ar Fasnach Deg o gwmpas Cymru.

Gadewch i ni wybod sut aeth eich cynlluniau trwy e-bostio gwyb@cymrumasnachdeg.org.uk.

Rydyn ni wedi ychwanegu adnoddau dysgu a gwasanaethau dwyieithog newydd i’n gwefan, ac mae gennym adnoddau newydd i ymgyrchwyr megis tystysgrif Masnach Deg.