Ffasiwn Cyflym: Annheg ac Anfoesegol

Chwefror 21, 2022

Y Bythefnos Fasnach Deg hon, rydym yn edrych ar y cysylltiadau rhwng ffasiwn, hil a’r hinsawdd. Rydym yn tynnu sylw at yr effaith y mae ffasiwn ac etifeddiaeth coloneiddio wedi’i wneud i’n planed a bywydau pobl sy’n gwneud ein dillad. 

Mae ffasiwn cyflym yn cyfeirio at sut mae busnesau’n cynhyrchu dillad rhad, y gellir eu taflu mewn cyfnod byr o amser, i wneud yr elw mwyaf a bodloni gofynion defnyddwyr. Mae wedi dod yn ffordd gynyddol boblogaidd i bobl gymryd rhan yn y tueddiadau ffasiwn sy’n newid yn barhaus am gost isel. Fodd bynnag, mae’r model busnes ffasiwn cyflym hwn yn annog gorbrynu, ac yn arwain at wastraff amgylcheddol ac anghydraddoldebau i’r rheini sy’n cynhyrchu ein dillad.

 Mae’r diffyg tryloywder o fewn cadwyni cyflenwi ffasiwn wedi galluogi corfforaethau a chyflogwyr i dandalu eu gweithwyr a methu â darparu amodau gwaith diogel. Mae Pretty Little Thing a Boohoo ymhlith rhai o’r manwerthwyr ffasiwn cyflym mwyaf adnabyddus yma yn y DU. Mae eu ffatrïoedd yng Nghaerlŷr yn talu cyn lleied â £2-3 yr awr i rai gweithwyr dillad. Mae’r rhan fwyaf o’r gweithwyr dillad hyn yn fenywod wedi’u hilioli, ac mae traean yn cael eu geni y tu allan i’r DU. Mae’r diffyg hawl gyfreithiol i ddogfennau gwaith a rhwystr iaith yn eu gwneud yn fwy agored i gamfanteisio ar lafur a cham-drin hawliau dynol.

Mae globaleiddio cadwyni cyflenwi wedi golygu bod corfforaethau mawr sydd eisiau lleihau costau cynhyrchu a gweithgynhyrchu yn edrych ar wledydd incwm isel fel India, Bangladesh, a Tsieina, lle mae llafur yn rhad. Er mwyn rhoi pethau mewn persbectif, mae gwledydd incwm isel i ganolig yn cynhyrchu 90% o ddillad y byd, ac yn wynebu anghyfiawnder amgylcheddol a hiliol wrth iddynt geisio bodloni corfforaethau cyfoethog ac anghenion defnyddwyr.

Mae’r diwydiant ffasiwn cyflym yn gweithredu o dan fodel economaidd, sy’n manteisio ar adnoddau naturiol a llafur o wledydd i allforio dillad rhad i’r byd, sy’n ein hatgoffa o’r model coloneiddio. Mae manteisio ar fenywod o liw a’u dibrisio yn nodwedd hanfodol o’r model ffasiwn cyflym, mae 74% o 80 miliwn o weithwyr dillad yn fenywod o liw, ac nid yw llawer yn cael eu talu mwy nag £20 yr wythnos. Mae iechyd menywod yn cael ei anwybyddu hefyd, gan eu bod yn agored i gemegion gwenwynig a llwch ffabrig wrth gynhyrchu tecstiliau.

Gwledydd incwm uchel sydd wedi gwneud y mwyaf i gyfrannu at newid yn yr hinsawdd, ac eto, mae gwledydd incwm isel yn cael eu gadael gyda’r effaith amgylcheddol. Mae’r diwydiant tecstiliau yn cyflwyno risgiau amgylcheddol ac iechyd difrifol i wledydd incwm isel. Mae rhyddhau lliw gwenwynig heb ei drin a deunyddiau fel polyester o ffatrïoedd tecstiliau i afonydd cyfagos, yn niweidio systemau dyfrffyrdd lleol ac yn bygwth adnoddau a bywoliaeth pobl leol. Cotwm yw un o’r cnydau ffibr pwysicaf yn y diwydiant tecstiliau; mae’n cyfrif am fwy na 40% o’r cynhyrchu tecstiliau byd-eang, yn ddwys o ran dŵr, ac mae angen dros 250 biliwn tunnell o ddŵr bob blwyddyn. Mae llawer o wledydd incwm isel ar draws y byd yn dibynnu ar gotwm fel ffynhonnell incwm. Mae 90% o ffermwyr cotwm y byd yn byw mewn gwledydd incwm isel i ganolig, ond mae ffermwyr cotwm yn cael trafferth gwneud bywoliaeth dda oherwydd newid yn yr hinsawdd, amrywiadau yn y farchnad, a chymorthdaliadau gorllewinol.

Mae Masnach Deg yn gweithio gyda ffermwyr cotwm graddfa fach yn Asia ac Affrica, i helpu i rymuso sefydliadau sy’n eiddo i ffermwyr. Mae’r isafswm pris Masnach Deg yn helpu cynhyrchwyr i ennill cyflog byw gweddus. Mae Masnach Deg yn hyrwyddo’r defnydd o gotwm o ffynonellau cynaliadwy, ac mae wedi cyflwyno’r safon cotwm Masnach Deg i helpu i amddiffyn ffermwyr ar ddiwedd y gadwyn gyflenwi. Mae Masnach Deg yn parhau i gefnogi hawliau gweithwyr, drwy ei gwneud yn ofynnol i gadwyni cyflenwi roi gwybod am amodau gwaith.


Dewch i’n digwyddiad ar-lein Fair Fashion? A conversation on fashion, race and climate justice i ddysgu mwy am effeithiau ffasiwn ar bobl a’r blaned. Mae gennym restr wych o siaradwyr, sy’n cynnwys:

  • Ophelia Dos Santos, Actifydd Cyfiawnder Hinsawdd a Dylunydd Tecstilau Cymreig 
  • Simmone Ahiaku, Ymgyrchydd, actifydd ac addysgwr cyfiawnder hinsawdd 
  • Subindu Gharkel, Uwch Arweinydd Cotwm a Tecstilau Masnach Deg 
  • Hwyluswyd gan Aileen Burmeister, Cymru Masnach Deg

Pryd? 

  • Dydd Merch, 2 Maw 18:30-19:30

Prynwch eich tocynnau nawr!


A chadwch olwg ar ein sianeli cyfryngau cymeithasol am fwy o drafodaeth am effeithiau ffasiwn: