Wythnos Chwyldro Ffasiwn 2022 – cyfweliad gyda Ophelia Dos Santos

Ebrill 6, 2022

Mae Wythnos Chwyldro Ffasiwn 2022 yn rhedeg o 18-24 Ebrill, a hwn yw mudiad gweithredu ffasiwn mwyaf y byd. Cafodd ei greu i gofio cwymp ffatri Rana Plaza, a laddodd 1,138 o bobl ac a anafwyd llawer mwy yn 2013.

Nod yr ymgyrch yw gweld byd lle mae pob gweithiwr sy’n gwneud ein dillad yn cael ei weld, ei glywed a’i dalu’n iawn a bod eu hamgylcheddau byw a gweithio yn ddiogel. Nid ydym eisiau gweld trychineb Rana Plaza arall a thrwy Chwyldro Ffasiwn, rydym yn gweld bod y diwydiant ffasiwn yn dechrau gwrando. Fodd bynnag, dim ond newydd ddechrau mae’r daith, ac mae angen inni sicrhau bod y diwylliant prynu yn cael ei newid.


Eleni, buom yn siarad ag Ophelia Dos Santos, dylunydd tecstilau o Gymru, sy’n eirioli dros gyfiawnder yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd o fewn ffasiwn. Dywedodd Ophelia fwy wrthym am ei gwaith, beth mae gweithredu cyfiawnder hinsawdd yn ei olygu, a sut y gallwch newid eich perthynas â ffasiwn gyflym.

Ophelia Dos Santos working on her embroidery

 

 

Mae gwaith creadigol Ophelia yn ffocysu ar frodwaith llaw, trwy atgyweirio ac ail-bwrpasu dillad a gwastraff tecstilau. Drwy ei hymarfer mae hi’n hwyluso gweithdai cymunedol cynhwysol, yn creu lle i drafod newid yn yr hinsawdd a ffasiwn, ac mae hi’n dysgu technegau brodwaith syml i ysbrydoli gweithredoedd bob dydd. Yn y gofod hwn o gyd-ddysgu, gall mynychwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd hefyd drwy archwilio a rhannu eu perthynas unigol â ffasiwn.

Dywedwch wrthym amdanoch chi eich hun a’ch gwaith o fewn y diwydiant ffasiwn 

“Yn gynt yn fy ngyrfa, roeddwn i am fynd mewn i’r diwydiant ffasiwn, ond yn hwyrach gwnes i ddarganfod nid oedd diwylliant y diwydiant o or-ddefnyddio a gor-gynhyrchu yn cyfateb i’m gwerthoedd. Heddiw, dwi’n defnyddio fy sgiliau i hwyluso gweithdai gyda sefydliadau lleol ac elusennau. Rwy’n dod o hyd i ymdeimlad eithafol o bwrpas a boddhad wrth gynhyrchu gwaith a digwyddiadau sydd o wasanaeth i fy nghymuned.”

Mae Ophelia yn gweithio gyda llawer o gymunedau lle nad Saesneg yw’r brif iaith gyntaf. Mae hi’n nodi, “mae brodwaith yn gallu bod yn adnodd i siarad â phobl, yn ffordd o gyfleu syniadau a gwybodaeth, siarad trwy ei arddangos yn hytrach na thrwy siarad. Mae Ophelia yn anelu i “gyrraedd cymunedau ymylol sydd yn nodweddiadol o gael llai o ymgysylltiad gyda’r sgwrs am yr hinsawdd, yn darparu lle i wrando ar a mwyhau’r lleisiau hynny”.

Attendees at Ophelia's workshop sitting around a table doing embroidery

Mae Ophelia yn cydnabod gall trwsio dillad gael ei weld fel arwydd o dlodi neu rywbeth i fod â chywilydd ohono yn y presennol. Dywedodd hi “Gallwn adennill hynny. Mae’n ffordd o gymryd rhan mewn chwyldro sy’n ymwneud ag achub y blaned.”

“Rwyf eisiau ysbrydoli sgwrs ac annog dysgu am yr amgylchedd a’r hinsawdd, ond rwyf eisiau dal brandiau’n atebol hefyd am ei effeithiau ar y blaned. Dwi’n meddwl bod rhan o’r ateb yw addysgu pobl sut mae brandiau yn ecsbloetio marchnata, mae llawer o bobl dal yn anymwybodol strategaethau gwyngalchu – y modd y mae brandiau yn camarwain cwsmeriaid am ei ymrwymiadau i’r amgylchedd”. 

Beth mae’n olygu i fod yn actifydd cyfianwder hinsawdd? 

“I mi, mae gweithredu cyfiawnder hinsawdd yn ymwneud ag actifedd hygyrch a gwneud i’r lle gynnwys pob cymuned – Mae’n rhaid i weithredaeth amgylcheddol a chyfiawnder hinsawdd fod yn rhyngsectorol. Mae’n bwysig taflu goleuni ar yr elfen ddynol o’r ffordd rydym yn defnyddio a’n esgeulustod tuag at y blaned. Dylai pob un ohonom ymdrechu i wneud mwy o gysylltiadau â phobl a’r amgylchedd o’n gwmpas. Yn ogystal â’r cysylltiadau â’r pethau rydym yn berchen ar”. 

Beth mae’r Wythnos Chwyldro Ffasiwn yn ei olygu i chi?

Rhoddwyd gwybod i Ophelia am yr Wythnos Chwyldro Ffasiwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, drwy ei phresenoldeb mwy ar-lein. 

“Roedd cwymp Rana Plaza yn 2013 yn drobwynt enfawr i frandiau’r gorllewin. I mi, mae Chwyldro Ffasiwn yn ymwneud â gwneud pobl yn ymwybodol a’r damweiniau mae’r diwydiant ffasiwn yn creu a sut gall ei’n weithredoedd fel unigolion atal dinistr pellach. Mae’n ardal i bobl dysgu, cael ei ysbrydoli a chysylltu; er enghraifft, dysgu sut i wnïo ac eirioli am well amodau gweithio mewn ffatrïoedd dillad. Dwi’n credu mai’n bwysig i annog cysylltiad mwy cryf tuag at y pethau rydym yn perthyn arno, yn enwedig dillad. Rydym yn gwisgo dillad pob dydd ond yn anaml yn cwestiynu ‘o le mae hyn wedi dod?’ neu ‘pwy greodd fy nillad?’ mae’r cwestiynau hyn yn hanfodol i brisio a gwerthfawrogi nwyddau materol.”

Sut gall unigolion ddianc rhag ffasiwn cyflym?

Mae Ophelia yn ein hannog i gyd i “ymlacio, mwynhau’r blaned a pheidio â brwydro drosto.”

“Mae ffasiwn gyflym wedi dod yn air budr o fewn ffasiwn. Ni ddylwn ei osgoi yn hollol oherwydd ystyrir ei fod yn ‘anghynaladwy’. Mae llawer ohonom (gan gynnwys fi) yn perthyn ar ddillad o frandiau ffasiwn gyflym, dwi’n caru rhai o’r eitemau yma! Ni ddylid ffasiwn gyflym cael ei wastraffu, os gallech fynd i’r afael a’ch diwylliant prynu a newid eich perthynas gyda’ch dillad – gall unrhyw eitem dod yn well i’r blaned. Mae ffasiwn yn cael effaith enfawr ar ein hunanhyder; pan fyddwn yn gwisgo pethau rydym yn eu hoffi, mae ein personoliaethau yn disgleirio. Felly, os yw ffasiwn gyflym yn eich gwneud yn hapus a’ch bod chi’n gyfforddus yn gwisgo hynny, ceisiwch brynu ffasiwn cyflym ail-law o siopau elusennol neu siopau marchnad ar-lein (fel Depop neu Vinted). Gallech hyd yn oed trefnu i gyfnewid dillad gyda’ch ffrindiau!”

A model showcasing a white shirt with Ophelia's embroidery on


Dilynwch gyfrif Instagram Ophelia i gadw fyny gyda’i gwaith, ac ewch i’w gwefan am ragor o wybodaeth.  

Sut fyddwch chi’n dathlu’r Wythnos Chwyldro Ffasiwn? Mae ymgyrchwyr cyfiawnder hinsawdd yn cynnal digwyddiadau ar-lein ac mewn person ar draws y DU i nodi’r achlysur, dewch o hyd i ddigwyddiad yn agos atoch chi

Siaradodd Ophelia yn ein digwyddiad, Ffasiwn Teg? Sgwrs am ffasiwn, hil a chyfiawnder yr hinsawdd. Os gwnaethoch chi ei fethu, gallwch ei wylio ar ein sianel YouTube nawr.

Yn ystod y Bythefnos Masnach Deg hon, fe wnaethom ganolbwyntio ar ffasiwn a’i effeithiau ar yr hinsawdd. Darllenwch fwy am sut mae ffasiwn gyflym yn annheg ac yn anfoesegol. Hefyd, gwrandewch ar y sgwrs hon rhwng Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Ranga Prif Swyddog Gweithredol Dibella India sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda ffermwyr cotwm ac sy’n cynhyrchu dillad yn uniongyrchol, ac Andy o Koolkompany, sydd â gwisgoedd ysgol Masnach Deg a phlastig wedi’i hailgylchu.