14 mlynedd yn ddiweddarach… Beth sydd nesaf i wlad Masnach Deg gyntaf y byd?

Mehefin 6, 2022

Yn 2008, creodd Cymru hanes trwy ddod yn wlad Masnach Deg gyntaf y byd. Helpodd yr ymgyrch dwy flynedd dan arweiniad Fforwm Masnach Deg Cymru i gydnabod Cymru fel gwlad sy’n gyfrifol yn fyd-eang. 14 mlynedd yn ddiweddarach, mae Cymru Masnach Deg yn parhau i gynnig cymorth i gynhyrchwyr, drwy gefnogi, tyfu a hyrwyddo’r mudiad Masnach Deg yma yng Nghymru. 


Uchafbwyntiau allweddol y blynyddoedd diwethaf

Yn 2019, cawsom y pleser o gynnal y 13eg Cynhadledd Trefi Masnach Deg Rhyngwladol (IFTTC) yng Nghaerdydd. Daeth y gynhadledd â chynhyrchwyr, gweithredwyr dros gyfiawnder masnach, gwirfoddolwyr, ymgyrchwyr llawr gwlad, plant ysgol, cynrychiolwyr cynghorau, a mudiadau cenedlaethol ynghyd. Roedd yr IFTTC yn cynnwys trafodaethau ar newid hinsawdd, ffoaduriaid, incwm byw a chyfiawnder masnach. Fel y wlad Masnach Deg gyntaf, a’r ffaith ein bod yn meddu ar rwydwaith eang o weithredwyr mewn mwy na 30 o drefi Masnach Deg, helpodd y digwyddiad hwn i ddangos ein hymrwymiad ar y cyd i fyd tecach. 

Roedd Pythefnos Masnach Deg 2021 yn dilyn thema bwysig cyfiawnder hinsawdd. Mae’r argyfwng hinsawdd yn fygythiad uniongyrchol a chynyddol, ac mae’r rhai sy’n byw mewn gwledydd sy’n agored i niwed yn sgil yr hinsawdd eisoes yn gweld ei effeithiau ar ffurf sychder, cnydau’n methu a llifogydd, yn ogystal â thywydd eithriadol o boeth a chynaeafau’n lleihau.

Cynhaliodd Cymru Masnach Deg Fore Coffi Newid Hinsawdd gyda Jenipher Wettaka Sambazi, cynhyrchydd coffi o Uganda a Jenipher’s Coffi. Daeth pobl o Gymru a thu hwnt ynghyd, a chawsom wybod mwy am fywyd Jenipher, sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar ei bywoliaeth a sut mae Masnach Deg yn ei chefnogi. 

Addasodd Sarah Philpott ei chacen Siocled a Tahini yn rysáit cacen Pythefnos Masnach Deg arbennig, gan ddefnyddio cynhwysion masnach deg, ac aethom ati i greu fideo rysáit sy’n dangos i chi yn union sut i’w gwneud. Fe wnaethom hefyd roi cefnogaeth i Fforwm Masnach Deg Abertawe a Chanolfan yr Amgylchedd gyda’u digwyddiad panel, ‘Cyfiawnder Hinsawdd ar gyfer Byd Tecach’ oedd yn cynnwys rhai siaradwyr anhygoel ar draws y sector gan gynnwys Jane Davidson, Paul Allen, Shenona Mitra, Robin Roth ac Allan Saidi.

Cynhaliwyd digwyddiad arbennig ar gyfer Diwrnod Coffi Rhyngwladol 2021: Coffi, Hinsawdd a’r Defnyddiwr – lle clywsom gan Lazarous Bwambale, ffermwr Masnach Deg o Uganda, ymhlith eraill. Aeth Lazarous ati i’n hatgoffa’n rymus o oblygiadau newid hinsawdd i’r rhai sy’n ffermio ar lawr gwlad. Dywedodd ei bod yn gyfrifoldeb ar fodau dynol ym mhobman i newid ein hymddygiad er mwyn cefnogi ffermwyr a gweithwyr sy’n brwydro yn erbyn effeithiau newid hinsawdd. Mae prynu Masnach Deg yn annog arferion ffermio moesegol a chynaliadwy.

Y thema ar gyfer Pythefnos Masnach Deg 2022 oedd cyfiawnder hinsawdd, ac rydym wedi parhau i siarad am bwysigrwydd cyfiawnder hinsawdd  i ffermwyr a gweithwyr yn y cymunedau lle mae Masnach Deg yn gweithio. Ein digwyddiad, ‘Ffasiwn Deg? Sgwrs ar ffasiwn, hil, a chyfiawnder hinsawdd‘, Roedd y digwyddiad hwn yn cynnig dull croestoriadol o ddeall yr heriau cymhleth y mae ffermwyr a gweithwyr mewn gwledydd sy’n agored i niwed yn sgil yr hinsawdd yn eu hwynebu. Hefyd pam bod Masnach Deg mor bwysig i sicrhau bod cynhyrchwyr yn cael cyflog byw teg ac yn cael eu trin yn deg mewn cadwyni cyflenwi.

Buom hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â phedair siop Masnach Deg yng Nghymru ac yn ymweld â dwy ohonynt. Adferiad ar ôl y pandemig trwy siopa’n lleol a chreu effaith fyd-eang oedd y neges. Fodd bynnag, cynhaliodd llawer o gymunedau eraill eu digwyddiadau eu hunain hefyd. Darllenwch beth ddigwyddodd yn eich ardal chi

Ychydig ar ôl Pythefnos Masnach Deg, ar gyfer Wythnos y Chwyldro Ffasiwn, cynhaliwyd cyfweliad gyda’r dylunydd tecstilau o Gymru a’r gweithredwr cyfiawnder hinsawdd, Ophelia Dos Santos. Gallwch wrando ar ein sgwrs

 

Mwy o obaith am y dyfodol! 

Daeth Masnach Deg Cymru’n aelod o fudiad cyfiawnder masnach y DU sy’n galw am gyfiawnder masnach yng nghytundebau masnach y DU trwy hyrwyddo rheolau a rheoliadau masnach cyfiawn sy’n gosod pobl a’n planed o flaen elw.  

Eleni lansiwyd Cyfiawnder Masnach Cymru – prosiect peilot 12 mis mewn partneriaeth rhwng Masnach Deg Cymru a Chyngor Llywodraethiant Cymru / Fforwm Brexit WCVA, ac mae’n cael ei ariannu trwy gynllun Arloesedd i Bawb Prifysgol Caerdydd. Mae Cyfiawnder Masnach Cymru yn gynllun peilot 12 mis sydd â’r nod o greu rhwydwaith o fudiadau ac academyddion sydd â diddordeb mewn gwahanol agweddau ar Gyfiawnder Masnach. Bydd rhanddeiliaid yn cydweithio ar draws ystod o feysydd moesegol i sicrhau bod polisi masnach a chytundebau masnach newydd y DU yn gydnaws ag uchelgeisiau Cymru ar gyfer adferiad gwyrdd a chyfiawn yn unol â nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Yn olaf hoffwn ddweud pen-blwydd hapus i Gymru fel cenedl Masnach Deg!