Gweithdai Cynaliadwyedd Masnach Deg
Ionawr 17, 2023Mae Cymru masnach Deg yn cyffroes i lansio ein gweithdai cynaliadwyedd newydd!
Sefydlwyd Masnach Deg ym 1992, i fynd i’r afael â chyfiawnder masnach, newid hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol mewn cadwyni cyflenwi. Rydym yn hyrwyddo prisiau teg, amodau gwaith gweddus, cynaliadwyedd lleol, a thelerau masnach deg i ffermwyr a gweithwyr ar draws y byd, ond yn enwedig mewn gwledydd incwm is. Dyma pam rydym nawr yn arwain trwy ein gweithdai cynaliadwyedd newydd.
Rydym yn arweinwyr yn y maes, yn deall y problemau sydd wedi’u gwreiddio mewn cadwyni cyflenwi, ac yn darparu atebion mewn perthynas â gwerthoedd cymdeithasol. Felly, rydym mewn sefyllfa unigryw i gyflwyno cwrs ar ddeall y dull newydd seiliedig ar werthoedd, sy’n angenrheidiol i ffynnu mewn economi gynaliadwy.
Mae’r cyrsiau hyn yn ddelfrydol ar gyfer yr hyrwyddwyr cynaliadwyedd yn eich sefydliad, ond maen nhw’n addas hefyd ar gyfer yr holl weithwyr ac unigolion ar draws pob sector, i gael cyflwyniad manwl i gynaliadwyedd.
Bydd ystod o opsiynau hyfforddi hyblyg yn cael eu cynnig, gan gynnwys:
- Dosbarthiadau wyneb yn wyneb.
- Modiwlau ar-lein hunangyfeiriedig.
- Gweithdai byw ar-lein/ar Zoom.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015) yn gorfodi busnesau a sefydliadau’r sector cyhoeddus i ystyried eu heffaith amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, ac i ystyried yr effaith tymor hir, a sicrhau bod gan genedlaethau’r presennol a’r dyfodol ansawdd bywyd da. Mae’r Ddeddf yn tynnu sylw at ymrwymiadau a nodau ac at y pwysigrwydd o ddefnyddio dull cymdeithasol ehangach, mwy annatod a chyfunol o gyflawni sero net erbyn 2050.
Mae’r argyfwng hinsawdd yn cyflwyno her sylweddol, ond mae’n cynnig y cyfle i greu newidiadau mawr yn ein gweithgareddau dydd i ddydd hefyd, a allai arwain at fwy o les a chydraddoldeb ar draws y gymdeithas gyfan a’r amgylchedd. Ond mae angen i ni ddeall y cyd-destun rydym yn gweithredu ynddo i wneud y gorau o’r cyfleoedd mae’n eu cynnig.
Mae sicrhau ein bod yn gwneud y peth iawn yn ein sefydliadau yn gyfrifoldeb i bawb, felly mae angen cyfleoedd ar bob un ohonom i ymgysylltu â’r broses ac i ddeall y cyd-destun newydd rydym yn gweithredu ynddo.
Mae ein gweithdai yn edrych ar gynaliadwyedd o ran yr unigolyn, sefydliadau ac yn olaf, y cyd-destun rhyngwladol.
Ar ôl cwblhau gweithdy, bydd dysgwyr yn gallu:
- Defnyddio rhywfaint o’r gwerthoedd yn y gweithle.
- Deall Cyfrifoldeb Byd-eang, yn enwedig yng nghyd-destun Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015).
- Deall pŵer cadwyni cyflenwi a phrynu cynaliadwy.
- Dod o hyd i ragor o adnoddau a safonau rhyngwladol.
- Deall eich rôl fel unigolyn ac fel busnes.
- Gweithredu i liniaru problemau, a chymryd y camau nesaf.
E-bostiwch: Eli@cymrumasnachdeg.org am ragor o wybodaeth.