Mwynhad Pythefnos Masnach Deg yng Nghyrmu

Mawrth 27, 2023
Taith Masnach Deg // Fair Trade Walk, Llandeilo-Dryslwyn

Pythefnos Masnach Deg pleserus a llwyddiannus arall! Diolch i bawb a gymerodd ran yn y dathliadau eleni, o ysgolion i grwpiau cymunedol, ac Aelodau o’r Senedd. Dyma gipolwg ar rai o’r digwyddiadau cyffrous a gafodd eu cynnal yng Nghymru er mwyn hybu Masnach Deg eleni.


Bwyd gogoneddus fwyd

Ein thema eleni oedd… BWYD! Mae bwyd wrth galon Masnach Deg, ac yn cysylltu ok?  Dim yn sicr o intersect â newid yn yr hinsawdd, grymuso rhywedd, a bywoliaethau gwell. Ond yn anad dim arall, mae bwyd yn gweithredu fel cysylltydd ac fel grym sy’n uno rhwng unigolion a chymunedau o lu o gefndiroedd cyfan – mae bwyd a rhannu bwyd yn iaith gyffredinol. Dyma oedd ffocws ein digwyddiad blaenllaw Clwb Swper Cysylltiadau Cymunedol, a gynhaliwyd mewn partneriaeth ag Oasis Caerdydd, lle cawsom gyfle i gysylltu dros swper figan Masnach Deg blasus.

Fairtrade Fortnight event at Oasis, Cardiff
10.03.23 – Oasis, Caerdydd – Llun gan: Nick Treharne

Cafodd y swper ei ddilyn gan Jenipher (o Jenipher’s Coffi) yn sgwrsio gyda Splodown, cwmni cydweithredol bwyd o Gaerdydd. Rhannodd Jenipher ei stori fel ffermwr coffi Masnach Deg ardystiedig o Uganda, ac am yr her o geisio jyglo ei gwaith â bod yn fam. Yna, fe wnaethom glywed gan Alis a Matt o The Plate. Oasis Caerdydd. Rhannodd Alis (y Rheolwr Arlwyo) ei daith o symud i Gymru o Honduras, ac am sut mae Oasis Caerdydd wedi ei gefnogi ef a rhai o’r cynhyrchion Masnach Deg pwysig mae Honduras yn eu hallforio. Fe wnaeth pawb oedd yn bresennol fwynhau dod at ei gilydd dros fwyd a sgwrs, rhywbeth mor syml rydym wedi’i golli oherwydd Covid-19.

Aelodau’r Senedd yn dweud ie i Masnach Deg

Cawsom ddiwrnod ymgysylltu llwyddiannus yn y Senedd hefyd, yn rhyngweithio ag Aelodau o’r Senedd ar bopeth Masnach Deg, ac am y pwysigrwydd o gynnwys ‘cyfrifoldeb byd-eang’ yn y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus. Roedd hi’n ymddangos bod yr aelodau yn mwynhau blasu Chocoloney blasus Tony’s hefyd! 

Hybu Masnach Deg

Fe wnaeth Kadun o dîm Cymru Masnach Deg siarad yn fyw ar Prynhawn Da ar S4C hefyd am bopeth Masnach Deg, a thynnu sylw at daith Cymru fel Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd, a’n sefyllfa heddiw.

Ymweliad y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol â Met Caerdydd

I ddathlu llwyddiant Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn dod yn 1af yn y gwobrau Pobl a Phlaned ac i dynnu sylw at ei hymrwymiad i Fasnach Deg, fe wnaethom ymweld gyda’r Gweinidog, Jane Hutt. Pa ffordd well o ddathlu na gyda chwis blasu siocled a gwobrau Masnach Deg i’r myfyrwyr buddugol.

Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi ddod o hyd i gynhyrchion Masnach Deg o amgylch y campws, a bod hyd yn oed hoodies y brifysgol yn defnyddio cotwm Masnach Deg?

Ymgysylltu Pobl Ifanc

Gall newid ddigwydd ar bob lefel a gan bob person. Mae wedi bod yn anhygoel gweld pobl ifanc yng Nghymru yn ymgysylltu yn ystod y Bythefnos Masnach Deg, a gweld yr angerdd sydd ganddynt tuag at wireddu dyfodol mwy disglair i bawb. Roedd y digwyddiad ‘Great Welsh Cake Off’, a gynhaliwyd ym Mlaenau Gwent ar Ddydd Gŵyl Dewi, yn llwyddiant ysgubol, wrth i bobl ifanc leol ddefnyddio cynhyrchion Masnach Deg i gystadlu i wneud y Pice Bach gorau yng Nghymru, ein trysor cenedlaethol o ran bwyd Cymreig.

Fairtarde Fortnight, Nimrod, Penarth
Nimrod yn siarad gyda plant ysgol, Penarth

Derbyniodd Cystadleuaeth Ieuenctid Masnach Deg Bro Morgannwg 150 o geisiadau o waith celf, cerddi a negeseuon, sy’n dangos sut mae Masnach Deg yn cefnogi cymunedau wrth adeiladu dyfodol cynaliadwy i ffermio rhai o’n hoff fwydydd. Gallwch weld y ceisiadau yn Llyfrgell Dinas Powys tan 1 Ebrill.

Yn Abertawe, cynhaliwyd gweithdy addurno bagiau tote Masnach Deg yn y brifysgol. Croesawyd myfyrwyr a staff fel ei gilydd i ymgysylltu â Masnach Deg drwy addurno bagiau tote gyda’u dyluniadau eu hunain.

Taith Gerddedd Ffyrdd Masnach Deg Cymru

Fe wnaeth Ffyrdd Masnach Deg Cymru gychwyn y Bythefnos Masnach Deg gyda thaith gerdded o Landeilo i Ddryslywn. Fe wnaeth plant ysgol o bedair ysgol a phobl o’r gymuned ehangach gerdded gydag aelodau o’r Co-op, ac fe roddodd y daith gyfle i ddechrau sgwrs am bopeth Masnach Deg a dyfodol bwyd. Mae’r teithiau cerdded yn rhan o gyfres o 20, sy’n dathlu 20 mlynedd ers i Rydaman ddod yn Dref Masnach Deg 1af Cymru.

Boreau Coffi

Cynhaliodd sawl grŵp foreau coffi Masnach Deg, yn gwerthu te, coffi, siwgr a chacennau Masnach Deg. Cynhaliwyd boreau coffi yn Ninas Powys, Bangor, y Barri, Abertawe, Rhydaman,Catell-newydd Emlyn ac Abergele i enwi dim ond rhai. Cynhaliwyd bore coffi dipyn yn wahanol yng Nghastell Newydd Emlyn gyda’u digwyddiad ‘Dim Coffi, Dim Bore Coffi’, ok? oedd yn tynnu sylw at y pwysigrwydd o fynd i’r afael â newid hinsawdd i ddiogelu rhai o’n hoff fwydydd sy’n cael eu tyfu yn y De Byd-eang, sy’n dod yn fwy a mwy anodd i’w tyfu oherwydd Newid Hinsawdd, ac sy’n peryglu eu dyfodol fel cynnyrch. Mae premiymau Masnach Deg yn caniatáu ac yn annog ffermwyr i adeiladu gwydnwch i’w harferion ffermio.

Cael hwyl wrth eiriol dros Fasnach Deg

Achub Ein Bananas, Aberporth

Mae’n wych gweld rhai o’r ffyrdd cyffrous mae ein grwpiau yn dewis dathlu’r Bythefnos Masnach Deg. Mae Castell Newydd Emlyn wedi creu traddodiad o ddod â’r Bythefnos i ben ar Draeth Aberporth, i wneud rhywbeth gwahanol i dynnu sylw at y materion newid hinsawdd sy’n bygwth ffermwyr a gweithwyr sydd ar y rheng flaen. Roedd y digwyddiad nofio Achub Ein Bananas ar y traeth oer yn dangos nad oes rhaid i eiriol dros faterion y byd fod yn ddifrifol, ac y gellir gwneud hyn drwy chwerthin a chysylltu ag unigolion o’r un anian sydd yn cael eu hysgogi gan weledigaeth gyffredin o’r dyfodol.

Masnach Deg mewn Pêl-droed

Cilgeti AFC, Ymgyrch Masnach Deg mewn Pêl-droed

Tra bod bwyd yng nghanol taith Masnach Deg, mae Masnach Deg yn mynd y tu hwnt i hynny hefyd, fel y gwelwyd gan Kilgetty AFC yn eu gêm yn erbyn Milford Athletic. Gwnaeth Kilgetty ennill hefyd (3-1), a  fe lwyddon nhw i rannu Pêl-droed Masnach Deg gyda Milford Athletic, yn hyrwyddo integreiddio Masnach Deg i chwaraeon. Fel y gwyddom o Gwpan y Byd yn ddiweddar, nid yw’r byd pêl-droed bob amser yn deg i weithwyr. Mae’r Ymgyrch Masnach Deg mewn Pêl-droed yn tynnu sylw at yr anghydraddoldebau yn y diwydiant rwber, ac yn tynnu sylw at hyn, un gêm ar y tro. Drwy ymrwymo i ddefnyddio pêli-troed Masnach Deg, mae Kilgetty AFC yn arwain y ffordd yn nyfodol pêl-droed.


Dim ond cipolwg yw hwn ar rai o’r gweithgareddau a gynhaliwyd yng Nghymru yn ystod Pythefnos Masnach Deg 2023, a chynhaliwyd llawer mwy o ddigwyddiadau cyffrous. Edrychwch ar ein cyfrif Twitter i weld beth ddigwyddodd yn lleol i chi.

Diolch i bawb a gymerodd ran yn y Bythefnos Masnach Deg eleni; mae wedi bod yn wych gweld cymaint o ddigwyddiadau mewn person, a chysylltu â chymaint o bobl o gwmpas yr hyn sydd wrth galon Masnach Deg – bwyd!

Yr haf hwn, bydd Cymru’n dathlu 15 mlynedd ers dod yn Genedl Masnach Deg gyntaf y byd! Gwyliwch y gofod hwn i weld pa ddigwyddiadau Masnach Deg y gallwch chi gymryd rhan ynddynt – rydym yn edrych ymlaen at yr holl gefnogaeth.