Yn falch o fod yn Genedl Masnach Deg: Dathlu 15fed blwyddyn Cymru fel Cenedl Masnach Deg
Mehefin 27, 2023Ar 11 Gorffennaf 2023, rydym yn cynnal digwyddiad dathlu yn y Senedd i nodi 15fed blwyddyn Cymru fel Cenedl Masnach Deg! Yn 2008, fe wnaeth Cymru hanes drwy ddod yn Genedl Masnach Deg gyntaf y byd, ar ôl ymgyrch dwy flynedd dan arweiniad Fforwm Cymru Masnach Deg, a sefydlodd Gymru fel gwlad sydd wedi ymrwymo i gyfrifoldeb byd-eang.
Dechreuodd y daith tuag at ddod yn Genedl Masnach Deg yn 2003, pan lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch i hyrwyddo’r defnydd o gynnyrch Masnach Deg yng Nghymru. Cefnogwyd yr ymgyrch hon gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Canolfan Cydweithredol Cymru, Oxfam Cymru, a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru.
Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, enillodd yr ymgyrch fomentwm, a dechreuodd mwy a mwy o fusnesau, ysgolion a chymunedau gefnogi Masnach Deg.
Yn 2007, pasiodd Llywodraeth Cymru Fesur Cenedl Cymru Masnach Deg, a oedd yn nodi ymrwymiad y llywodraeth i hyrwyddo arferion Masnach Deg a chefnogi cynhyrchwyr Masnach Deg. Roedd hyn yn garreg filltir bwysig ar y ffordd i ddod yn Genedl Masnach Deg.
Mae bod yn Genedl Masnach Deg yn golygu bod yn ddeinamig; mae’r canllawiau’n berthnasol ac yn benodol i Gymru, ac yn canolbwyntio ar werthoedd ymgysylltu ac ymwybyddiaeth cymunedol, ymgysylltu a chefnogaeth wleidyddol, argaeledd a phrynu cynnyrch Masnach Deg, a gwell perthnasoedd masnachu.
Cerrig Milltir Pwysig
Sefydlwyd Cymru Masnach Deg yn 2009 i ‘gefnogi, tyfu a hyrwyddo’r mudiad Masnach Deg yng Nghymru’. Ers hynny, rydym wedi ymgyrchu dros hawliau ffermwyr a chynhyrchwyr mewn gwledydd incwm isel a chanolig sy’n cael eu talu’n annheg am y gwaith maen nhw’n ei wneud, ac sy’n cael eu heffeithio’n anghymesur gan effeithiau newid hinsawdd. Yma yng Nghymru Masnach Deg, rydym yn gobeithio bod yn gatalydd ar gyfer y mudiad Masnach Deg yng Nghymru, a helpu i ragweld y meini prawf o fod yn Genedl Masnach Deg, ac ymdrechu i fod yn gefnogol a grymusol ym mhopeth a wnawn a chyda’r cydweithredu rydym yn ei wneud gyda grwpiau llawr gwlad.
Fair Trade Ways were introduced to Wales in 2011. They create walking links between Fairtrade towns, encouraging people to visit places supporting Fair Trade, and giving campaigners a chance to promote Fair Trade. Cafodd Ffyrdd Masnach Deg eu cyflwyno i Gymru yn 2011. Maen nhw’n creu cysylltiadau cerdded rhwng trefi Masnach Deg, ac yn annog pobl i ymweld â lleoedd sy’n cefnogi Masnach Deg, ac yn rhoi cyfle i ymgyrchwyr hyrwyddo Masnach Deg.
Yn 2019, cawsom y pleser o gynnal y 13eg Cynhadledd Trefi Masnach Deg Rhyngwladol yng Nghaerdydd. Daeth y gynhadledd â chynhyrchwyr, gweithredwyr cyfiawnder masnach, gwirfoddolwyr, ymgyrchwyr llawr gwlad, plant ysgol, cynrychiolwyr y cyngor, a sefydliadau cenedlaethol at ei gilydd. Roedd y gynhadledd yn cynnwys trafodaethau ar newid yn yr hinsawdd, ffoaduriaid, incwm byw a chyfiawnder masnach. Drwy fod y genedl Masnach Deg gyntaf a chael rhwydwaith helaeth o weithredwyr mewn mwy na 30 o drefi Masnach Deg gweithredol, helpodd y digwyddiad hwn i ddangos ein hymrwymiad cyffredin i greu byd tecach.
Yn 2020, ymunodd Cymru â’r Mudiad Cyfiawnder Masnach, gan ddangos ei hymrwymiad i sicrhau cyfiawnder masnach a sicrhau canlyniadau cynaliadwy i bobl a’r amgylchedd.
Buom yn gweithio’n agos gyda Phwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb y Senedd i gryfhau’r Bil caffael cyhoeddus a fyddai’n hyrwyddo gwaith teg yng Nghymru. Canlyniad ein trafodaethau oedd i Lywodraeth Cymru ddarparu arweiniad cryfach i gyrff cyhoeddus ar gaffael cyfrifol yn fyd-eang.
Bob blwyddyn, rydym yn mwynhau dathlu’r Bythefnos Masnach Deg. Ar gyfer Pythefnos Masnach Deg 2023, y thema oedd bwyd, ac fe wnaethom ddathlu hyn yn ein digwyddiad blaenllaw: a chael swper fegan Masnach Deg a gynhaliwyd mewn partneriaeth ag Oasis Caerdydd.
Rydym yn gyffrous i weld beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig ar gyfer Masnach Deg yng Nghymru ac ar gyfer y newid cadarnhaol rydym yn gobeithio bod yn rhan ohono yn y blynyddoedd i ddod, gyda chymorth a chefnogaeth barhaus a gwaith caled ein grwpiau cymunedol a’n hymgyrchwyr.
Digwyddiad dathlu 15 mlynedd
Bydd y digwyddiad dathlu 15 mlynedd yn cael ei gynnal yn y Senedd, Caerdydd, lle byddwch yn cwrdd â chefnogwyr Masnach Deg o bob cwr o Gymru, ac yn profi perfformiadau byw a stondinau rhyngweithiol, Byddwch yn clywed areithiau gan Cymru Masnach Deg a Llywodraeth Cymru hefyd.
Mae’r siaradwyr yn cynnwys: Aileen Burmeister, Cymru Masnach Deg a Jane Hutt AS, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru
Os hoffech gymryd rhan:
Mae’r digwyddiad yn dechrau am 11am, felly dylech gyrraedd gyda digon o amser i fynd drwy’r trefniadau diogelwch yn y Senedd. Bydd y digwyddiad yn gorffen am 2pm, sy’n gadael digon o amser i gael cinio, rhwydweithio ac ymweld â’r stondinau rhyngweithiol.
Mae cyflawniad Cymru fel Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd yn ysbrydoliaeth i wledydd a sefydliadau eraill sy’n gweithio tuag at greu byd mwy cyfiawn a chynaliadwy i bawb. Rydym yn gyffrous dros ben i ddathlu gyda chi yn y Senedd ar 11 Gorffennaf, i helpu i osod cynsail byd-eang, ac i barhau i gefnogi ymarfer Masnach Deg yng Nghymru.