Croeso, Sarah Stone!

Tachwedd 20, 2023

Mis yma, rydym am groesawu ein haelod diweddaraf o staff a Phennaeth newydd Cymru Masnach Deg, Sarah Stone – croeso! Dewch i adnabod Sarah…

Pwy ydych chi, a beth oedd eich cefndir cyn Cymru Masnach Deg?

‘Dwi wedi gweithio yn y trydydd sector am y rhan fwyaf o fy ngyrfa.  Fy nghyfraniad cyntaf oedd fel gwirfoddolwr mewn canolfan gymunedol yng Nghaerdydd, a dangosodd fy mhrofiadau cynnar yr ased enfawr y mae gweithredu cymunedol yn ei olygu imi, a phŵer gwybodaeth a chefnogaeth ymarferol i bobl ar adegau o angen. Yn fwyaf diweddar, bûm yn gweithio i’r Samariaid, elusen sy’n cynnwys gwirfoddolwyr yn bennaf, ac sydd â phresenoldeb lleol cryf mewn cymunedau ar draws Cymru, gweddill y DU ac Iwerddon. Mae’r Samariaid yn enghraifft o syniad, yn yr achos hwn, am bwysigrwydd gwrando ac empathi, ysbrydoli pobl i ddod at ei gilydd, rhoi o’u hamser a ffurfio mudiad o werth parhaol.  

‘Dwi wrth fy modd yn ysgrifennu, a ‘dwi newydd dreulio blwyddyn yn astudio ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bath Spa. ‘Dwi’n credu bod adrodd straeon yn ei holl ffurfiau niferus yn ffordd o wneud synnwyr o’r byd, o ddeall safbwyntiau eraill, ac mae ganddo gyfraniad i’w wneud i ymgyrchu ar gyfiawnder cymdeithasol.

Pam mae Masnach Deg yn bwysig i chi?

‘Dwi wedi bod yn ymwybodol o waith Masnach Deg ers amser maith ac yn ei weld yn dangos yr hyn sy’n bosibl, trwy gysylltu cynhyrchwyr â defnyddwyr, er budd y ddau.  Mae’n ffagl dros degwch ac yn dangos bod mynd i’r afael â cham-fanteisio yn ymarferol ac yn fasnachol hyfyw.  ‘Dwi mor falch o gael y cyfle i fod yn rhan o’r mudiad Masnach Deg yn ystod secondiad Aileen.  Mae’n cyfrannu at y weledigaeth gadarnhaol ac ymarferol sydd ei hangen arnom yng Nghymru, ac ar draws y byd, i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, diffyg cynaliadwyedd ac anghydraddoldeb.  Mae angen i ni fynd i’r afael â’r materion hyn ar frys, er mwyn creu dyfodol ar gyfer y cenedlaethau nesaf, ac mae gweithredoedd unigolion, sy’n cael eu hychwanegu at ei gilydd a’u cydlynu, â rhan mor ganolog i’w chwarae.  

Beth yw eich gweledigaethau ar gyfer dyfodol Masnach Deg yng Nghymru?

Mae’n ddyddiau cynnar i mi, ond mae’r diwydrwydd y mae Cymru Masnach Deg yn ei redeg yn creu cymaint o argraff arnaf, gan y partneriaethau y mae’n rhan ohonynt a’r gweithredu cymunedol mae’n eu cefnogi.  Fy mlaenoriaeth gyntaf yw sicrhau ein bod yn cynnal ac yn adeiladu ar hynny, a byddaf yn siarad gyda llawer o bobl, ac yn gwrando arnynt dros y misoedd nesaf.  Mae gan Cymru Masnach Deg strategaeth sy’n nodi tri maes blaenoriaeth, i gefnogi, tyfu a hyrwyddo’r mudiad Masnach Deg yng Nghymru.  ‘Dwi eisiau gwneud cynnydd ar yr holl feysydd hyn yn ystod y flwyddyn i ddod, a chynyddu dealltwriaeth o’r weledigaeth Masnach Deg ar yr un pryd.

Rydym hefyd yn gyffrous iawn i lansio ein Grantiau Dathlu Masnach Deg newydd, i ddathlu 15 mlynedd fel Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd. Hoffwn annog cymaint o bobl i wneud cais am y rhain, a ‘dwi’n edrych ymlaen at gwrdd â chi yn eich digwyddiad dathlu lleol. 

Beth yw eich hoff gynnyrch Masnach Deg?

Siocled tywyll Divine gyda ffrwythau a chnau!