Dewch i adnabod ‘Tired Mums Coffee’: yn rhoi hwb i’r profiad mamolaeth un paned Masnach Deg ar y tro

Chwefror 26, 2024

Dewch i gwrdd â Gemma a Laura, wynebau Tired Mums Coffee – cwmni coffi Masnach Deg diweddaraf Cymru. Mae Gemma a Laura yn ddwy fam flinedig sy’n anelu i roi hwb i’r profiad mamolaeth trwy greu cymuned gynhwysol i bawb. 

Eu cenhadaeth yw defnyddio coffi fel arf i gefnogi’r gymuned famolaeth, un baned ar y tro. Rydyn ni’n caru eu stori a’r cyfan y mae nhw’n ei gyflawni, felly eisteddon ni i lawr am sgwrs:

Allwch chi ddweud ychydig wrthym am Tired Mums Coffee?

Gemma a Laura ydyn ni, rydyn ni byw yng Ngogledd Cymru/Sir Amwythig, ac fe wnaeth ein llwybrau groesi am y tro cyntaf pan roeddem yn gweithio yn y GIG. 

Yn ystod ein hail gyfnod mamolaeth, fe wnaethom sylwi ar ddiffyg cefnogaeth gan gyfoedion i famau, oedd yn arbennig o eithafol ar y pryd oherwydd effaith y pandemig. Mae’r ddau ohonom wedi datblygu cariad dwfn at goffi, yn enwedig ers cael llai o gwsg yn ystod y blynyddoedd diwethaf! Arweiniodd hyn at archwilio sut y gellid defnyddio coffi i greu newid positif.  O chwerthin llond ein bol i ddagrau o flinder, mynd allan yn yr awyr iach a’r ambell ‘poonami’, mae paned dda o goffi wedi bod wrth wraidd ein cefnogaeth. Cafodd Tired Mums Coffee ei sefydlu ar ôl llawer o sesiynau tanio syniadau gyda choffi mewn canolfannau ‘softplay’!

Bwriad Tired Mums Coffee ydy rhoi hwb i’r profiad o fod yn fam trwy goffi sy’n blasu’n hyfryd, gyda phwrpas. Ein gweledigaeth yw gadael etifeddiaeth i famau yn y dyfodol, drwy wella eu profiadau o fod yn fam, ac annog rhannu gwybodaeth ar draws cenedlaethau.

Ein nod yw parhau i dyfu cymuned o gefnogaeth gan gyfoedion sy’n hygyrch i bawb ac sy’n seiliedig ar ein gwerthoedd – sydd ddim yn feirniadol ac sy’n gynhwysol, yn groesawgar, ac yn onest. Mae’r gymuned yn lle i rannu’r uchafbwyntiau a chefnogi’r isafbwyntiau – a rhai diwrnodiau, dim ond goroesi sy’n bwysig!

Ein nod yw sicrhau bod mamau ar draws y DU yn gallu sgwrsio, gydag un o’n coffis yn eu llaw! 

Dywedwch wrthym am eich coffi

Rydym yn cyflwyno persbectif unigryw i’r farchnad goffi a chefnogaeth ystyrlon i famau. Rydym wedi datblygu dau flend o goffi Masnach Deg, blasus, ac mae’r ddau gyda’r nodweddion canlynol:

  • gradd arbenigedd
  • cryfder canolig a rhost
  • batch bach/yn cael eu rhostio trwy ddargludo gwres
  • wedi eu lapio mewn deunydd pacio ailgylchadwy 
  • ac mae % o’r elw yn mynd yn ôl i’r rhai sy’n cefnogi mamau’n uniongyrchol

Mae ein blend 100% arabica, Party All Night, sydd yn cael ei dyfu yn Columbia ac Ethiopia, yn flend perffaith, sydd â llyfnder siocled llaeth a charamel, zest mandarin ac arogl Jasmin. Bydd y blend hwn yn rhoi hwb i chi yn y bore, sy’n arbennig o ddefnyddiol os ydych chi heb gael llawer o gwsg! 

Ein blend Nobody’s Listening To Me yw ffefryn personol Mam-gu Maggie! Blend â melyster caramel a choco ac awgrym cynnil o aeron gyda blas cnau i orffen.  Mae’r blend bywiog hwn yn berffaith unrhyw adeg o’r dydd, ac yn ategu sgwrs dda yn berffaith.

Rydym wrth ein bodd yn cynnig samplau mewn digwyddiadau, a darganfod pa un o’n blendiau coffi sydd yn well gan bobl!

Mae’n amlwg eich bod yn cefnogi Masnach Deg, ond beth wnaeth i chi benderfynu bod yn fusnes Masnach Deg?

Cyn i ni gychwyn ar ein taith i greu ein brand pwrpasol a datblygu ein blendiau coffi, cytunwyd y byddai cynaliadwyedd yn un o’n prif flaenoriaethau, ac roedd cael ardystiad Masnach Deg yn rhywbeth nad oedd yn agored i drafodaeth (yn ogystal â deunydd pacio y gellir ei ailgylchu).

Roedd hyn yn golygu bod dod o hyd i’n coffi yn fwy anodd, ond fe wnaethom ddyfalbarhau, ac rydym wrth ein bodd gydag ansawdd a blas ein blendiau gorau. Fe wnaethon ni ddewis lle sy’n rhostio coffi yn ofalus, sy’n rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd yr hyn maen nhw’n ei wneud, o sut maen nhw’n dod o hyd i ffa coffi, i sut maen nhw’n cefnogi cymunedau lleol. Rydym yn gweithio gyda mam anhygoel yn y lle sy’n rhostio coffi hefyd, sy’n cefnogi ein safonau uchel a’n brand yn llwyr.

Mae gennym bump o blant rhyngddom, felly rydym bob amser yn ceisio gwneud ein gorau glas dros y blaned a rhedeg ein busnes bach yn foesegol ac yn gynaliadwy. Mae dewis Masnach Deg yn helpu i sicrhau bod ffermwyr a gweithwyr yn cael eu trin yn deg, eu bod yn  derbyn isafbris masnach deg, a bod ganddynt y rhyddid i ddewis sut i wario eu premiwm Masnach Deg, er enghraifft, i ariannu prosiectau i baratoi eu ffermydd yn well ar gyfer newid hinsawdd.

Rydyn ni bob amser yn awyddus i ddysgu a gwneud mwy dros ein planed, rydyn ni hyd yn oed yn ailgylchu ein coffi mâl yn yr ardd, ac yn gwneud masgiau wyneb gyda nhw! 

Sut gall y cyhoedd ddysgu mwy am eich gwaith a chymryd rhan?

Yn ogystal â rhoi % o’n gwerthiannau (p’un a ydym yn gwneud elw ai peidio) i sefydliadau sy’n cefnogi mamau, rydym yn tyfu ein cymuned, ac yn darparu offer i wella lles mamol. Byddem wrth ein bodd i gynifer o bobl â phosibl ymuno â’n cymuned, p’un a ydynt yn caru coffi neu ddim!

Y ffordd orau o fod y cyntaf i ddarganfod am ein cynigion a’n digwyddiadau yw trwy gofrestru ar ein rhestr bostio a’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae enghreifftiau o’r pethau rydym yn eu cynnig ar hyn o bryd yn cynnwys:

  • cyfres o sgyrsiau rhithwir am ddim gyda gwesteion arbenigol sy’n rhoi cyngor ar les i rieni
  • rhoi ein coffi arbenigol i grwpiau sy’n cefnogi mamau – a mynd o yfed coffi instant i yfed coffi moethus, mâl
  • lansio ein hymgyrch #mumsarefine ar y cyfryngau cymdeithasol, ac annog mamau i rannu eu straeon a helpu mamau eraill i deimlo’n llai unig
  • gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau o’r un anian sy’n rhannu gwerthoedd tebyg ar gynaliadwyedd a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ehangach

Er mai ein cenhadaeth yw rhoi hwb i’r gymuned o famau, ein nod yw i bawb fwynhau ein coffi, ac mae’n gwneud yr archeb hunanofal neu’r anrheg berffaith.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein hamrywiaeth o anrhegion coffi a chyffrous (gan gynnwys ein canhwyllau ‘Espresso Mumtini’ a lansiwyd yn ddiweddar) ar ein gwefan.

Ac i glywed am ein newyddion diweddaraf yn gyntaf a derbyn disgownt croeso ynghyd â chynigion arbennig unigryw, gallwch gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr.

Rydym yn datblygu llawer o gynlluniau cyffrous ac yn edrych ymlaen yn fawr i weld ble fydd ein taith Tired Mums Coffee yn mynd â ni. Rydym yn gweithio ar sawl partneriaeth newydd, ac yn ehangu ein hystod o gynnyrch, cynllunio digwyddiadau, a lledaenu’r gair ymhellach am ein cenhadaeth fel y gallwn gefnogi mwy o famau. Buasem wrth ein bodd yn clywed gan unrhyw ddarpar stocwyr neu bartneriaid hefyd sy’n cefnogi Masnach Deg a/neu famau!


Felly dyn’n gryno yw Tired Mums Coffee. Nawr rydych chi’n deall pam mae gennym ni obsesiwn â’u cwmni, a gobeithio y bydd ganddo chithau hefyd.