Pythefnos Masnach Deg Gwych 2024

Hydref 7, 2024

Roedd Pythefnos Masnach Deg 2024 yn llwyddiant ysgubol

Am Bythefnos Masnach Deg 2024 wych! Diolch i bawb a gymerodd ran yn
nathliadau eleni, o ysgolion, grwpiau cymunedol, ac Aelodau o’r Senedd. Dyma gipolwg ar rai o’r digwyddiadau cyffrous a ddigwyddodd yng Nghymru i hyrwyddo Masnach Deg, a dathlu 30 mlynedd o’r marc Masnach Deg.

Dathlu, Cacen a Chymuned

Ein thema eleni oedd ‘Byddwch y Newid’, trwy brynu cynnyrch Masnach Deg a chodi llais dros fasnach decach. Pa ffordd well o wneud hynny na threfnu Marchnad Foesegol yng nghanol Sblot yng Nghanolfan Oasis?

Roedd gan ein marchnad stondinau moesegol a Masnach Deg, ardal caffi, bwyd ac adloniant i bawb. Roedd Global Eats yn darparu bwyd blasus o’r dwyrain canol, roedd Conscious Coffee yn gweini diodydd poeth ac oer moesegol, ac roedd gennym fathodynnau, y cyfle i swapio llyfrau, a gweithdy brodwaith gydag Ophelia Dos Santos.

Fe wnaethom ganu ‘Pen-blwydd Hapus’ i Fasnach Deg, ac fe wnaeth Jenipher o Jenipher’s Coffi dorri’r gacen siocled Masnach Deg blasus a chwythu’r canhwyllau i ddathlu digwyddiad llwyddiannus.

0924.21_Oasis_052_N Treharne


Aelodau’r Senedd yn cefnogi Masnach Deg

Cawsom ddiwrnod ymgysylltu llwyddiannus yn y Senedd hefyd, yn rhyngweithio gydag Aelodau’r Senedd ar bopeth Masnach Deg. Fe wnaethon nhw gael hwyl yn cyfarfod Jenipher o Jenipher’s Coffi eto, ac fe ysgrifennodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, ddatganiad ysgrifenedig y diwrnod hwnnw, i gefnogi’r Bythefnos Masnach Deg, ac i gyhoeddi meini prawf newydd y Genedl Masnach Deg i Gymru. Meddai:

Yn 2008, daeth Cymru’n Genedl Masnach Deg gyntaf y byd, ac rwy’n falch
bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi arferion masnach deg a defnydd moesegol. Mae Masnach Deg yn cefnogi cynhyrchwyr ar draws y byd i ddiogelu dyfodol rhai o’n bwydydd a’n cynhyrchion mwyaf poblogaidd, a’r blaned hefyd.

Eleni, bydd y Bythefnos Masnach Deg yn cael ei chynnal rhwng 09 Medi a 22
Medi, i nodi pen-blwydd y Bythefnos Masnach Deg yn 30 oed, gyda’r thema
‘Byddwch y Newid’.

https://www.gov.wales/written-statement-fairtrade-fortnight-2024
Masnach Deg yn y Gymuned

Masnach Deg yn y Gymuned

Cynhaliodd ein grwpiau cymunedol rhywfaint o ddigwyddiadau gwych ar drawsCymru, dyma dim ond rhai:

Fe wnaeth Grŵp Masnach Deg Sir Gaerfyrddin greu Banana Split Enfawr yn
Rhydaman.

Fe wnaeth Fforwm Masnach Deg Abertawe gynnal Noson Blasu Siocled Masnach Deg yng Nghanolfan yr Amgylchedd Abertawe, a mynychodd yr AS Torsten Bell.

Gwelodd Masnach Deg Dinas Powys eu siwt banana Masnach Deg yn mynd ar antur ddoe gyda rhywfaint o rieni, ar ôl bore coffi Masnach Deg Ysgol Gatholig Sant Joseff.

Fe wnaeth Fforwm Masnach Deg y Fenni gynnal cyfres o ddigwyddiadau o amgylch y dref, gan gynnwys bore coffi â thema, a stondin yng Ngŵyl Fwyd y Fenni gyda chefnogaeth Cyngor Tref y Fenni.

Aeth Grŵp Masnach Deg Sir Fynwy â Jenipher i gwrdd â disgyblion o ysgolion ar draws y sir, bu’n sôn am bwysigrwydd Masnach Deg.

Fe wnaeth y Cynghorydd Tudor Griffiths, Maer Tref Cas-gwent, gefnogi’r Bythefnos Masnach Deg trwy fachu banana Masnach Deg o’r ‘coed bananas’ yng Nghas-gwent a Bulwark gyda grŵp Masnach Deg Cas-gwent.

Masnach Deg mewn Pêl-droed: Yn ddiweddar, fe wnaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Stepaside ymuno gyda Kilgetty AFC, i gymryd rhan mewn digwyddiad Canmlwyddiant Cwpan Masnach Deg Kilgetty. Fe wnaeth 34 o ddisgyblion Stepaside CP gerdded gyda’u hathrawon i Kilgetty AFC, i chwarae pêl-droed gyda thîm Kilgetty Dan 8 oed, Timau Cymysg Dan 9 oed, a thimau Merched Kilgetty Dan 9 oed a Dan 11 oed.

Edrychwch ar ein negeseuon ar X, i weld digwyddiadau eraill a ddigwyddodd yn y gymuned ac mewn ysgolion ar draws Cymru.