Croeso Millie!

Mawrth 18, 2025
Image introduces a new team member to Fair Trade Wales' team with the company logo in the top left and the logo pattern in the background, which is a Dark green and pink celtic-like intertwined form on a cream coloured background. Photo in the middle is of Millie with a sunset in the background, she is a white female with brown hair. Text above the image reads 'croeso Millie' in dark green, with Millie's full name underneath in pink; Millie Belding and her job title; 'Swyddog Cymunedol a Chyfathrebu / Community and Communications Officer' in dark green.

Llun gan Cymru Masnach Deg

Heddiw, rydym yn cyflwyno ein haelod mwyaf newydd o’n tîm, Millie Belding, sydd wedi ymuno â ni yn Cymru Masnach Deg! Dewch i adnabod Millie…


Pwy ydych chi, a beth oedd eich cefndir cyn dechrau gweithio i Cymru Masnach Deg?

Rwyf bob amser wedi bod yn angerddol am gynaliadwyedd, defnydd moesegol a gweithredu cymunedol. Wrth dyfu i fyny ar fferm fy nhad-cu yng Nghymru, datblygais gysylltiad dwfn â natur ac anifeiliaid, a arweiniodd at fynd ar drywydd prosiectau sy’n canolbwyntio ar faterion amgylcheddol, gan gynnwys llygredd plastig a dylunio cynaliadwy.

Ers graddio o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn 2022, rwyf wedi gweithio ym maes creu cynnwys digidol a’r cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys gweithio ar brosiectau llawrydd ar gyfer sefydliadau nid-er-elw fel Gŵyl Theatr Awyr Agored Caerdydd a Benthyg Cymru, lle defnyddiais y cyfryngau creadigol i gysylltu â chynulleidfaoedd a hyrwyddo newid cymdeithasol.

Pam bod Masnach Deg yn bwysig i chi?

Mae Masnach Deg yn fudiad sy’n grymuso cynhyrchwyr, sy’n amddiffyn y blaned ac sy’n cysylltu cymunedau. Ar ôl treulio amser yn gweithio gyda phrosiectau sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd a gweld pwysigrwydd cyrchu moesegol o lygaid y ffynnon, rwyf wedi gweld y gall camau bach arwain at newid ystyrlon.

Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru Masnach Deg?

Rwyf eisiau helpu i wneud Masnach Deg yn weladwy ac yn ddeniadol i gymunedau ar draws Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda chymunedau llawr gwlad, cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach trwy adrodd straeon digidol a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol, a gobeithio, ysbrydoli gweithredu a thyfu’r mudiad.

Beth yw eich hoff gynnyrch Masnach Deg?

Clipper Organic Fairtrade Tea! Rwyf wrth fy modd bod Clipper yn defnyddio dewisiadau amgen naturiol eraill o’i gymharu â phlaladdwyr a gwrteithiau cemegol, gan gynhyrchu dail te organig o ansawdd uchel. Hefyd, mae eu bagiau te bioddiraddadwy yn eu gwneud yn ddewis cynaliadwy perffaith!