Sir Fynwy Arwain y Ffordd: Cyngor Hyrwyddwyr Dim Datgoedwigo Cyntaf Cymru!
Mawrth 13, 2025
Llun gan Millie Belding, Cymru Masnach Deg
Mae Sir Fynwy wedi creu hanes! Diolch i ymroddiad disgyblion ysgolion cynradd lleol a menter gyda Maint Cymru, mae Cyngor Sir Fynwy wedi dod yn swyddogol, yn Gyngor Hyrwyddwyr Dim Datgoedwigo cyntaf Cymru.
Beth yw Cyngor Hyrwyddwyr Dim Datgoedwigo?
Mae’r garreg filltir hon yn dilyn gwaith helaeth gan ddisgyblion o Sir Fynwy, sydd wedi bod yn ymchwilio i sut y gall eu dewisiadau bob dydd, yn enwedig prydau ysgol, gyfrannu at ddatgoedwigo trofannol. Mae eu hymchwil a’u heiriolaeth wedi arwain at Sir Fynwy yn sefyll yn erbyn datgoedwigo, ac ymrwymo i bolisïau caffael mwy cynaliadwy.
Pam Bod Hyn yn Bwysig i Fasnach Deg?
Mae datgoedwigo’n fater byd-eang hanfodol, a thrwy ddod o hyd i ddewisiadau amgen mewn perthynas â dim datgoedwigo, mae Sir Fynwy nid yn unig yn helpu i ddiogelu coedwigoedd ond mae hefyd yn cefnogi ffermwyr a gweithwyr sy’n cynhyrchu’n foesegol ac yn gynaliadwy. Mae Masnach Deg yn gwerthfawrogi cyrchu moesegol, diogelu’r amgylchedd, a gweld cymunedau Cymru’n ffynnu gyda’r dewisiadau amgen cynaliadwy hyn!
Dysgu Mwy
Eisiau clywed mwy? Edrychwch ar y fideos isod sy’n dangos taith Sir Fynwy i ddod yn Hyrwyddwr Dim Datgoedwigo:
Deforestation Free Monmouthshire
Osbaston Primary Deforestation Free
Mae cyflawniad Sir Fynwy yn enghraifft ddisglair o sut y gall gweithredu lleol ysgogi newid byd-eang. A allai eich cymuned chi fod nesaf?