Teyrnged i Claire
Mai 20, 2025
Llun: Hub Cymru Africa
Rydym yn drist iawn i glywed y newyddion am farwolaeth ein ffrind a’n
cydweithiwr, Claire O’Shea. Bu Claire yn gweithio’n agos gyda Cymru Masnach Deg, yn ei rôl fel Pennaeth Hwb Cymru Affrica, ac roedd yn eiriolwr dros undod byd-eang a chyfiawnder cymdeithasol. Roedd y ffordd y bu’n ymgyrchu dros wasanaethau canser gwell yn enghraifft ddisglair o sut y gall rhywun wneud gwahaniaeth yn yr amgylchiadau gwaethaf.
Roedd hi’n ysbrydoliaeth ac yn ysbryd dewr a gymerwyd oddi wrthym yn rhy gynnar. Byddwn yn ei cholli’n fawr iawn.
Byddwn yn parhau â’r gwaith yr oedd Claire mor frwdfrydig drosto, trwy fod yn eiriol dros gyfiawnder a mynnu byd mwy cyfartal.