Tired Mums Coffee: Penodau newydd. Stocwyr newydd. Un pwrpas mawr.
Mai 30, 2025
Llun: Tired Mums Coffee
Mae wedi bod yn flwyddyn gyffrous i Tired Mums Coffee, y brand ardystiedig Masnach Deg sy’n cael ei fragu â phwrpas ac wedi’i adeiladu o amgylch bywydau go iawn – a blinder go iawn!
Ers i ni sgwrsio gyda nhw nôl ym mis Chwefror 2024, mae pethau mawr wedi bod yn bragu. Mae’r brand, sy’n adnabyddus am ei gymysgeddau blasus a’i genhadaeth bwerus i gefnogi rhieni, wedi lansio mewn i adwerthiant. Gallwch ddod o hyd i’w coffi o ffynonellau moesegol yn siopau ledled Cymru a’r DU, gan gynnwys Siop Fferm ‘Rhug Estate’ yng Nghorwen, Siop Fferm ‘Rackery’ yn Wrecsam, a ‘Welsh Luxury Hamper Co.’ yng Nghas-gwent. Mae eu coffi hefyd yn cael i’w stocio trwy ‘Artisan Food Club’ ar gyfer archebion cyfanwerthu.
Mae’r ehangiad yma yn nodi cam pwysig i’r busnes, a sefydlwyd yn wreiddiol gan Gemma a Laura, dwy fam wnaeth cwrdd wrth weithio yn y GIG. Roedd eu nod yn syml: defnyddio coffi fel grym er daioni trwy gynnig cefnogaeth i rieni blinedig arall.
Yn gynharach y mis yma, cyhoeddodd Tired Mums ar eu cyfryngau cymdeithasol y bydd Gemma yn camu’n ôl o’r busnes am resymau personol. Bydd y cwmni nawr yn cael ei arwain gan y cyd-sylfaenydd Laura, sy’n parhau i gynnal eu cenhadaeth a’u hangerdd gyda gofal a gwaith caled.
Gyda presenoldeb cynyddol yn siopau, gall cwsmeriaid hefyd gwrdd â’r tîm a phrynu’n uniongyrchol mewn digwyddiadau eleni, gan gynnwys Gŵyl Fwyd Ludlow a Sioe Gaeaf BBC Good Food. Mae’r sioeau yma yn rhoi’r cyfle perffaith i chi flasu’r coffi a sgwrsio gyda Laura am sut mae pob bag o goffi yn gwneud gwahaniaeth.
Mae Tired Mums Coffee yn falch i fod yn sefydliad Fasnach Deg, gyda chanran o’i holl werthiannau coffi yn mynd tuag at elusennau sy’n cefnogi lles rhieni. Mae eu hopsiynau fel ‘Party All Night’ a ‘Nobody’s Listening to Me’ – wedi’u cynllunio i gyd-fynd â phob rhan o’r dydd (a phob math o flinder!).
Pe bai os ydych chi’n rhiant heb ddigon o gwsg neu’n rhywun sy’n caru cwpan o safon gyda stori y tu ôl iddo, mae Tired Mums yn frand sy’n werth i’w ddilyn a’i gefnogi.
Darganfyddwch ble gallech chi brynu coffi Tired Mums yma: https://tiredmumscoffee.co.uk/pages/stockists