Dathlu Wythnos Fawr Werdd 2025

Mehefin 18, 2025

Lluniau: Clare Bowman Co-op Member Activator

Wythnos diwethaf, fe gawsom ni’r cyfle i gydweithio gyda Co-op, Barnardo’s, a Breathe Creative Anadl i nodi Wythnos Fawr Werdd – sef dathliad sy’n digwydd ledled y DU o weithredau lleol ar newid hinsawdd.

Fe ddaeth y digwyddiad â siopwyr a’r gymuned leol at i’w gilydd yn Nhreganna i archwilio ffurfiau syml y gallwn ni gyd i wneud er mwyn leihau ein heffaith ar y blaned. O ryseitiau sy’n gyfeillgar i hinsawdd, i awgrymiadau siopa cynaliadwy, roedd yna rywbeth i bawb i gymryd adref.

Ar y diwrnod, roedd yna lawer o ‘freebies’ hyfryd ar gael – gan gynnwys siocled Masnach Deg, planhigion blodau haul, a ffannau papur yn barod i’w peintio. Fe roddodd y raffl gyfle i bobl ennill hamper oedd yn llawn danteithion Masnach Deg – ffordd llawn sbri i dynnu sylw at sut mae dewis Masnach Deg yn helpu ffermwyr a gweithwyr ledled y byd.

Roedd y digwyddiad yn atgoffa’r gymuned bod newidiadau bach yn gwneud gwahaniaeth. Boed yn newid i de Masnach Deg neu gefnogi brandiau moesegol, mae pob dewis yn bwysig.

Diolch yn fawr i Co-op Treganna am gynnal y digwyddiad ac am ei ymrwymiad parhaus i gynaliadwyedd – ac i bawb a alwodd heibio am sgwrs, gododd daflen, neu a ymunodd â’r raffl.

Diolch yn fawr – gadewch i ni barhau i weithredu ar gyfer dyfodol tecach a gwyrddach gyda’n gilydd.