Diolch i Lila – cydnabod cyfraniad arbennig

Awst 1, 2026
Picture / Llun: Nick Treharne

Wrth i Dr. Lotfi i gymryd drosodd fel Cadeirydd newydd Cymru Masnach Deg, mae’n amser i edrych yn ôl gyda diolch ar gyfraniad anhygoel Lila Haines, a ymddeolodd o’r rôl yn ddiweddar ar ôl blynyddoedd o’i wasanaeth eithriadol.

Ymunodd Lila â’r bwrdd yn 2017, ac o’r cychwyn cyntaf roedd ei hegni a’i phrofiad eang yn ased amhrisiadwy i’r mudiad. Yn 2018, goruchwyliodd adolygiad pwysig o statws Cymru fel Cenedl Masnach Deg a’r adroddiad y degfed pen-blwydd a gafodd ei lunio. Roedd hynny’n cynnwys croesawu sefydliadau Masnach Deg o ddeg gwlad wahanol i Gymru – digwyddiad a osododd sylfeini ar gyfer cyfnod o dyfu a newid.

Yna, yn 2019, croesawodd Cymru’r Gynhadledd Ryngwladol Trefi Masnach Deg – gyda 250 o bobl o dros 70 o wledydd yn bresennol. Lila gadeiriodd y noson groeso yn y Senedd gan gynnal y noson gyfan mewn tair iaith – yn Saesneg, Cymraeg ac yn Sbaeneg!

Pan darodd Covid yn 2020, gweithiodd Lila y tu ôl i’r llenni i helpu llunio strategaeth newydd ac a chefnogodd yr ail-frandio o wefan y sefydliad. Yn 2023, roedd hi’n ganolog i’n ddathliad o 15 mlynedd fel Cenedl Masnach Deg, gyda meini prawf newydd yn cael eu datblygu a dathliad yn y Senedd. Yr un flwyddyn, cymerodd gyfrifoldeb ychwanegol fel Cadeirydd Interim Hub Cymru Africa, gan gefnogi cyfnod o newid sefydliadol a gwasanaethu fel rheolwr llinell i Claire O’Shea – cyn Pennaeth Hub Cymru Africa.

Yn 2024 bu’n rhan o sicrhau cyllid newydd ar gyfer ein cystadleuaeth celf genedlaethol, ac yn 2025, fe ddechreuodd ein daith tuag at ddod yn elusen gofrestredig – cyfnod cyffrous arall a ddechreuodd o dan ei harweinyddiaeth hi.

Hoffem hefyd gydnabod cyfraniad Brân Devey a Natalie Rees, dau gyfarwyddwr ymroddedig sydd hefyd wedi camu i lawr yn ddiweddar. Daeth Natalie gyda dros 20 mlynedd o arbenigedd cynaliadwyedd i’r bwrdd, gan gynnwys sefydlu a sicrhau statws ar gyfer Grŵp Masnach Deg Castell-nedd Port Talbot. Daeth Brân â’i angerdd dros addysg fyd-eang, cyfathrebu a chyfiawnder rhyngwladol. Mae ei neges ymadael yn darllen:

“Mae Masnach Deg yn trawsnewid bywydau ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol (rwyf wedi’i weld a’i brofi). Gobeithio un diwrnod taw dêl deg i gynhyrchwyr bydd y norm – nid yn eithriad.”

I’r tair ohonoch chi – Diolch o galon. Mae marciau eich gwaith ar draws pob agwedd o’r hyn yr ydyn ni heddiw.