Yn cyflwyno: Masnach Deg Pontypridd!
Gorffennaf 10, 2025
Lluniau gan Ally o Masnach Deg Pontypridd
Ar Fehefin 21ain, mewn digwyddiad cymunedol fe lansiwyd grŵp newydd Masnach Deg Pontypridd i ddathlu tri ymgyrch pwysig – Wythnos Fawr Werdd, Wythnos Ffoaduriaid, a’r ‘Great Get Together’. Nodwyd pennod newydd i fudiad Masnach Deg sy’n tyfu ym Mhontypridd, gan wahodd bawb i ddysgu a chymryd rhan.
Wedi’i gynnal yn Chwarter Stryd y Felin, roedd y diwrnod yn cynnwys cerddoriaeth byw, gweithdai, cyfnewid planhigion a hadau, ac amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Roedd gwirfoddolwyr Masnach Deg Pontypridd yn rhedeg stondin yn cynnig danteithion a lluniaeth wedi’u gwneud gyda cynhwysion Masnach Deg, o fara banana i gacennau reis siocled – ac wrth gwrs, bananas Masnach Deg, sydd wastad yn ffefryn!
Roedd yna amrywiaeth o tudalennau gwybodaeth a greuwyd gan y grŵp, yn cynnwys dadansoddiad cymharu costau cynhyrchion Masnach Deg gyda cynhyrchion eraill o’r Sainsbury’s lleol ym Mhontypridd. Roedd llawer o’r mynychwyr wedi rhyfeddu i ddarganfod cyn lleied o gost ychwanegol yr oedd i ddewis cynnyrch tecach. Gwerthfawrogwyd hefyd ddarganfod pa fusnesau lleol oedd yn cadw cynhyrchion Masnach Deg, gyda rhai yn mynegi diddordeb mewn dod o hyd i fwy o eitemau Masnach Deg mewn siopau eraill fel Lidl.



Mae digwyddiadau cymunedol fel hyn yn helpu datblygu ymwybyddiaeth mewn i weithred. Maent yn creu lle ar gyfer sgwrs onest, cysylltiad lleol, a chamau bach ond pwerus tuag at fyd tecach.
Ydych chi eisiau ymuno gyda Masnach Deg Pontypridd?
Cysylltwch â’r grŵp yn uniongyrchol neu dilynwch nhw ar ei cyfryngau cymdeithasol i gael y gwybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a chyfleoedd.
Gyda’n gilydd, gallwn dyfu dyfodol tecach i bawb.