Ysbrydoli’r Genhedlaeth Nesaf o Newidwyr

Gorffennaf 22, 2025

Cynhadledd ‘Changemakers’, Y Teml Heddwch, Caerdydd – Gorffennaf 2025

Ar ddechrau’r mis yma, cawsom y pleser i fynychu Cynhadledd ‘Changemakers’ arall a gynhaliwyd yn Nheml Heddwch yng Nghaerdydd. Canolbwynt y digwyddiad oedd pwysigrwydd gweithredai pobl ifanc ar faterion hanfodol – o’u dewisiadau dyddiol i’r darlun estynedig.

Roedd Cymru Masnach Deg yn falch o fod yn rhan o’r digwyddiad, ochr yn ochr gyda sefydliadau Ysgolion Heddwch yng Nghymru a Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru. Fe rhannwyd eu gwaith gyda’r myfyrwyr ac ysbrydoli sgyrsiau am gyfiawnder, moeseg a dinasyddiaeth byd-eang. Roedd yn fraint i gwrdd â chymaint o blant chwilfrydig gyda diddordeb i ddysgu am sut gall y dewisiadau bach – fel y bwyd maent yn bwyta neu’r dillad maent yn gwisgo – creu gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ac i’r blaned.

Drwy gydol y sesiwn, fe siaradom â myfyrwyr am beth mae masnach deg yn ei olygu, ei effaith, a pham ei bod mor bwysig i hyrwyddo cynaliadwyedd a thegwch mewn cadwyni cyflenwi byd-eang. I nodi Wythnos Celf Plant, fe ofynnom ni i’r disgyblion i ddangos eu creadigrwydd gyda gweithgaredd lluniadu gan ganolbwyntio ar fasnach deg.

Yng nghyd-destun thema’r diwrnod – bod yn newidwyr – cawsom ein hatgoffa taw pobl ifanc yw arweinwyr y dyfodol, ac hefyd catalyddion y presennol. Mae eu hegni, eu creadigrwydd, a’u pryder am gyfiawnder yn atgyfnerthu pam mae digwyddiadau cymunedol fel hyn yn hanfodol i gynnal y momentwm ar gyfer newid.

Gyda’n gilydd, gallwn barhau i ysbrydoli newidwyr ifanc yfory.