Canllaw Anrhegion Nadolig Masnach Deg

Rhagfyr 17, 2025

Aethoch chi ychydig yn hwyr yn siopa’r Nadolig? Mae’n digwydd. Y newyddion da yw bod dewis anrhegion masnach deg yn ffordd hawdd o gefnogi pobl, busnesau lleol a mentrau cynaliadwy – hyd yn oed ar y funud olaf!

Ar draws Cymru a thu hwnt, mae siopau annibynnol gwych, mentrau cymdeithasol a brandiau moesegol yn stocio cynhyrchion masnach deg sy’n gwneud anrhegion meddylgar 

ac o ansawdd uchel. Gyda rhywbeth i bawb, dyma rai o’n dewisiadau Masnach Deg ar gyfer y Nadolig yma.

1. ‘Patagonia Men’s 73 Skyline Organic T-Shirt’ – (£31.50) o Babi Pur

A llawer o eitemau Masnach Deg arall i ddewis o yma wrthynt.

2. ‘Fair Trade Barnes Weekend Bag’ (£41.95) o’r siop ar-lein Amnesty International

Bag wedi’i wneud gyda deunyddiau Masnach Deg ac yn cefnogi gwaith hawliau dynol.

3. ‘Tiny Tony’s Christmas Pouch’ (£7.00 – gyda disgownt ychwanegol o 20% bant ar y foment!) o Tony’s Chocolonely

Mae siocled Tony’s yn cefnogi ffermwyr coco yn Ghana a Chôte d’Ivoire. Dewch o hyd i’w bariau siocled mawr yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd lleol y DU.

4. ‘Hand-painted papier-mâché Christmas baubles’ (£4.00) o Fair and Fabulous (ar gael yn y siop ac ar-lein)

Addurniadau wedi’u gwneud â llaw sy’n ychwanegu rhywbeth arbennig i’r goeden.

5. ‘Oxfam Unwrapped – ‘Fair Work, Together’ donation pack’ (£25.00) – ar gael yn siopau Oxfam ac ar ei wefan

Rhodd amgen ystyrlon sy’n cefnogi bywoliaeth deg.

6. Sanau Bamboo (£6.95) – ar gael yn siop SUSSED, Porthcawl

Cyfforddus ac yn ymarferol!

7. ‘The Coffee and Cocoa Discovery Selection’ (£19.95) o Tired Mums Coffee a stocwyr eraill

Anrheg wych i’r person sy’n caru coffi yn eich bywyd! Yn cynnwys coffi a siocled poeth Masnach Deg.

8. Jenipher’s Coffi (£3–£20) – Ar gael ar wefan Jenipher’s Coffi a gan stocwyr eraill

“Wrth brynu Jenipher’s Coffi, rydych chi’n chwarae rhan fach mewn gwneud y byd yn lle tecach.”

9. ‘Luxury Fair Trade chess set’ (£69.99) o wefan Shared Earth

Anrheg nodedig sy’n cyfuno crefftwaith â chynhyrchu moesegol.

10. ‘Zaytoun Roasted Chilli Almonds’ (£6.50) ar gael yn Oxfam ac archfarchnadoedd lleol

Cefnogi ffermwyr Palesteinaidd drwy Fasnach Deg.

11. ‘Fair Trade Wooden Dinosaur Play Set’ (£24.99) o gwefan Amnesty International

Anrheg i blentyn yn eich bywyd wedi’i gwneud gyda deunyddiau masnach deg.

Mae dewis Masnach Deg y Nadolig yma yn golygu cefnogi cyflogau teg, amodau gwaith gwell a chadwyni cyflenwi mwy cynaliadwy i ffermwyr, cynhyrchwyr a chrefftwyr ledled y byd.

Dymunwn Nadolig Llawen iawn i chi – wrth dîm Cymru Masnach Deg!