Prynhawn masnach deg ym mhrifysgol Met Caerdydd
Mawrth 25, 2026
Y mis yma, cafodd Masnach Deg Cymru’r pleser o gymryd rhan mewn digwyddiad arbennig ym mhrifysgol Met Caerdydd – Prynhawn Te Masnach Deg a ddaeth â’i myfyrwyr a sefydliadau gwahanol at ei gilydd i ddathlu masnach deg a’r bobl y tu ôl i’n cynhyrchion bob dydd.
Agorodd y digwyddiad gyda sgwrs wrthym ni yng Nghymru Masnach Deg, yn trafod beth yn union yw masnach deg, pam mae’n bwysig, a’r rôl arbennig mae Cymru’n chwarae fel y genedl masnach deg gyntaf y byd. Roedd y myfyrwyr a’r tîm cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Met Caerdydd wedi paratoi amrywiaeth hyfryd o nwyddau pobi, i gyd wedi’u coginio o gynhwysion Masnach Deg, gan gynnwys brownis, bara banana, a flacjacs.
Cafodd y rhain eu gweini gyda the a choffi Masnach Deg, sydd hefyd ar gael i’w brynu ar gampws yn eu caffeteria. Ochr wrth ochr gyda’r danteithion yma, fe wnaeth y tîm Met Caerdydd trafod pob cynhwysyn, gan esbonio o ble mae’r siocled, y bananas a’r siwgr roedd yn y danteithion yma yn dod, a sut mae’r marc Masnach Deg yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r ffermwyr sy’n eu tyfu.
Ar ôl i’r cyflwyniad a’r te, roedd yna gyfle i ymweld â’r stondin gan y brifysgol, roeddent yn rhoi allan siocledi Masnach Deg, a hefyd yn dangos y hwdis Met Caerdydd sydd ar gael i’w brynu ar gampws, sydd wedi’u gwneud o gotwm Masnach Deg!



Roedd Clare, aelod-actifadu y Co-op, ac Ally o Fairtrade Pontypridd hefyd yno gyda stondinau. Bu’r ddwy yn sgwrsio â’r myfyrwyr am yr opsiynau eang o gynhyrchion Masnach Deg sydd ar gael yn y Co-op, ac esboniodd Ally ei waith gwych gyda Fairtrade Pontypridd – grŵp cymunedol sy’n gweithio i hyrwyddo Masnach Deg yn eu hardal leol. Roedd y ddau yn dangos bod Masnach Deg yn rhywbeth sydd ar gael ar ein strydoedd ni, yn ein siopau, ac yma yng nghymunedau yng Nghymru.
Roedd hi’n wych i weld cymaint o fyfyrwyr yn cymryd rhan yn y sgwrs yn ystod y dydd – yn gofyn cwestiynau, yn blasu’r bwyd, ac yn dysgu am y bobl y tu ôl i’r cynhyrchion rydyn ni’n eu prynu bob dydd. Diolch enfawr i dîm Cynaliadwyedd Met Caerdydd am drefnu’r digwyddiad a chroesawu cymaint o bobl. Diolch hefyd i Clare o’r Co-op ac Ally o Fairtrade Pontypridd am rannu eu hamser a’u gwybodaeth.
Mae digwyddiadau yma’n atgoffa ni pam rydyn ni’n gwneud y gwaith yma – a’r gwahaniaeth y gall sgwrs syml gyda phaned o de teg ei wneud.