Grwpiau Masnach Deg Bangor yn Ysbrydoli Ysgolion Lleol

Ebrill 1, 2025
Image shows lots of drawings created by students of what they think about Fair Trade. Pictures are on a brown classroom table with a blue carpet and blue school chairs in the background. Many children have used the Fair Trade logo in their artwork, which is a blue, green, black and white in a circle.

llun: Cymdeithas myfyrwyr 'Go Fairtrade' Prifysgol Bangor a Grŵp Masnach Deg Bangor

Mae cymdeithas myfyrwyr ‘Go FairtradePrifysgol Bangor a grŵp Masnach Deg lleol Bangor wedi bod wrthi’n lledaenu’r neges Masnach Deg mewn ysgolion cyfagos. Mae eu hymdrechion wedi helpu i godi ymwybyddiaeth ac ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan.

Cyflwyno Masnach Deg yn yr Ystafell Ddosbarth

Ymwelodd y gwirfoddolwyr â phedair ysgol i gyd, gyda dwy sesiwn arall eisoes wedi’u cynllunio. Roedd y sesiynau rhyngweithiol hyn yn trafod beth yw Masnach Deg, pam ei fod yn bwysig, a’i ymdrechion yn erbyn datgoedwigo – gyda ffocws arbennig ar siocled Masnach Deg! Cafodd disgyblion eu hannog i fynegi eu dysgu trwy waith celf creadigol, a thrwy greu posteri a lluniau oedd yn adlewyrchu eu dealltwriaeth o werthoedd Masnach Deg.

Credydau am y lluniau: Cymdeithas myfyrwyr 'Go Fairtrade' Prifysgol Bangor a Grŵp Masnach Deg Bangor

Effaith Barhaol

Mae’r ymdrechion allgymorth eisoes yn dangos canlyniadau! Cynhaliodd un ysgol o Ynys Môn Ddiwrnod Masnach Deg, lle cafodd disgyblion gyfle i brynu cynnyrch Masnach Deg am £1, gan eu helpu i adnewyddu eu statws Ysgol Masnach Deg. Mae ysgol arall dan sylw, a oedd wedi cael ei hardystio gynt fel ysgol Masnach Deg, wedi cael ei hysbrydoli i ailymgeisio am statws Masnach Deg yn dilyn yr ymweliad.

Adborth Positif

Mae’r ysgolion wedi gwerthfawrogi’r ymweliadau hyn yn fawr, gydag athrawon a disgyblion fel ei gilydd yn ymgysylltu’n frwdfrydig mewn trafodaethau ynghylch masnach foesegol a chynaliadwyedd.

Mae grŵp Masnach Deg lleol Bangor a gwirfoddolwyr sy’n fyfyrwyr yn parhau i ddangos bod camau bach yn gallu creu newid mawr.