Pythefnos Masnach Deg 2026: Dathlu Cyflog Teg ar draws Cymru
Hydref 14, 2026
Yn y llun: Fforwm Masnach Deg Abertawe
Mae Cymru wedi gweld undod parhaus dros Fasnach Deg yn ystod Pythefnos Masnach Deg, wrth i ymgyrchwyr ledled y wlad hyrwyddo cyflog teg i ffermwyr yn fyd-eang.
Rhwng 21 Medi a 4 Hydref, cynhaliwyd dros 40 o ddigwyddiadau Masnach Deg ar draws y wlad, gan gynnwys: boreau coffi, gemau pêl-droed, teithiau cerdded cymunedol, gwasanaethau eglwys, cwisiau, gwasanaethau ysgol, trafodaethau panel, sesiynau blasu bwyd, sesiynau codi sbwriel, a mwy.
Y thema eleni oedd Tâl Teg, gan ganolbwyntio ar y ffermwyr a’r gwneuthurwyr sydd dal yn cael eu talu’n llai nag y beth mae’n ei gostio i gynhyrchu’r eitemau rydym yn eu mwynhau bob dydd yn y DU.
Yn y Senedd
Ar 29 Medi, cynhaliodd Cymru Masnach Deg ‘Cwrdd â’r Mudiad’ yn y Senedd, a noddwyd gan Kiera Marshall AS. Daeth cymunedau Masnach Deg, cefnogwyr a busnesau o bob rhan o Gymru ynghyd i gwrdd â’u Haelodau Senedd. Clywsom wrth Martin Kinyua, ffermwr coffi a Rheolwr Cynorthwyol Mutira Farmers Cooperative Society yn Kenya, am bwysigrwydd Masnach Deg i’w gymuned, a hefyd wrth y Dirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams AS, a ddywedodd:
“Rydym ni’n dod at ei gilydd gydag ymrwymiad cyffredin; i degwch, i urddas a chyfrifoldeb byd-eang. A mae’r gwerthoedd hyn wrth wraidd agwedd Cymru tuag at ymgysylltu rhyngwladol, ac i’n cefnogaeth i Fasnach Deg.”


Yn Abertawe, fe siaradodd ein Pennaeth, Aileen Burmeister, yn y digwyddiad ‘Tâl Teg i Ffermwyr yn Lleol ac yn Fyd-eang’ a drefnwyd gan Fforwm Masnach Deg Abertawe. Buom hefyd yn rhan o’r dathliadau i nodi agoriad ‘Up to Africa’ – gofod newydd ar gyfer nwyddau Masnach Deg o Affrica yn y siop ‘Fair and Fabulous’ yng Nghastell Newydd Emlyn.
Ar draws Cymru
- Trefnodd Fairtrade Pontypridd gystadleuaeth ‘Dylunio Tegan Pren’ i blant a phobl ifanc, mewn cydweithrediad gyda Lanka Kade – busnes teganau Masnach Deg.
- Yn Ninas Powys, cynhaliwyd boreau a phrynhawniau coffi Masnach Deg ym mhob un o’r pedair ysgol gynradd y pentref, gyda gwasanaethau a pherfformiadau gan y disgyblion eu hunain.
- Cerddodd Fforwm Masnach Deg Abertawe 5 milltir o’r Ganolfan Amgylchedd i’r Mwmbwls, gan stopio am goffi Masnach Deg a gorffen gyda byrbrydau Palestinaidd.
- Cefnogodd yr ymgyrch ‘Fair Trade in Football’ dwrnamaint Cwpan Masnach Deg Ysgol Cosheston a gemau pêl-droed Clwb Pêl-droed Cilgeti gyda phêli-droed Masnach Deg Bala Sport.
- Fe welodd Clydach arddangosfa Masnach Deg yn y llyfrgell drwy gydol y Pythefnos, gwasanaeth Masnach Deg yng Nghapel y Nant, a bore coffi a gododd £200 ar gyfer Transform Trade.
- Yn y Fenni, arweiniodd Love Zimbabwe‘r ‘Ymdaith dros Affrica’ yng Ngŵyl Fwyd y Fenni, gan godi ymwybyddiaeth am Fasnach Deg, diogelwch bwyd, a gwydnwch cymunedol yn Zimbabwe.
- Cynhaliwyd Prifysgol Bangor sêl pobi, stondin te a choffi Masnach Deg a gyrhaeddodd tua 200 o fyfyrwyr, cwis, a bore coffi yng Nghapel Emaus.
- Cynhaliodd Maer Penarth ddigwyddiad yn West House i godi arian ar gyfer yr elusen Calon Hearts, gyda lluniaeth Masnach Deg wrth y Co-op.
- Yn Llantwit Major, daeth dros 70 o bobl i ddigwyddiad yn Chatty Caffi gyda’r Co-op. Hefyd, cymerodd rhan dros 40 o bobl ifanc (o’r Boys’ Brigade, y Sgowtiaid a Club Illtud) mewn gweithgaredd chwarae rôl yn ymwneud â thâl teg, gan dynnu sylw at y bobl yn gadwyni cyflenwi bananas.
Ac roedd llawer mwy o ymdrechion gwych ledled Cymru.




Mae pob digwyddiad Masnach Deg, a phob sgwrs sy’n digwydd wrthynt, yn ein nesáu ni at fyd lle mae pawb yn cael eu talu’n deg. Dylai popeth rydym yn ei brynu yn y DU warantu cyflog teg, amodau gwaith diogel, a gofal am yr amgylchedd.
Mae’r Fairtrade Foundation yn galw ar y llywodraeth y DU i basio deddf newydd i sicrhau bod pob busnes yn mynd i’r afael â cham-drin hawliau dynol a niwed i’r hinsawdd sy’n gysylltiedig â’u cynhyrchion.