Pythefnos Masnach Deg 2026

Dydd Llun 21st Medi – Dydd Sul 4th Hydref 2026

Mae’r Bythefnos Masnach Deg yn ymgyrch flynyddol sydd yn codi ymwybyddiaeth o bopeth sy’n ymwneud â Masnach Deg

Eleni, rydym yn tynnu sylw at bwysigrwydd Cyflog Teg. Mae llawer o ffermwyr yn dal i gael eu talu llai na’r gost o gynhyrchu eu cnydau – gan gynnwys y bobl sydd yn tyfu ein te, coffi, siocled a’n bananas. Eitemau mae pobl ar draws Cymru yn eu prynu ac yn eu mwynhau bob dydd. Mae Masnach Deg yn mynd i’r afael â chyflog annheg drwy osod prisiau isafswm a darparu’r Premiwm Masnach Deg, a rhoi amddiffyniad i ffermwyr pan fydd marchnadoedd yn gostwng. Mae hefyd yn helpu i adeiladu cymunedau cryfach a mwy gwydn.

Stori Martin

Mae Martin yn ffermwr coffi ac yn Ddirprwy Reolwr ‘Mutira Farmers Cooperative Society’ yn Kenya.

Mae Martin a’i gymuned yn pryderu am sut mae newid hinsawdd yn gwneud tyfu coffi yn llawer llai dibynadwy fel ffynhonnell incwm. Yn aml, mae’r system fyd-eang yn gadael ffermwyr heb lawer iawn o opsiynau i addasu. Am bob £3 sydd yn cael ei wario ar gwpanaid o goffi, dim ond tua 4c sydd yn mynd at y cynhyrchwyr, a dim ond 8% o’r miliynau o gwpanaid o goffi sydd yn cael eu hyfed yn y DU sy’n goffi Masnach Deg – sy’n golygu bod llawer o ffermwyr yn dal i fod yn agored i brisiau anwadal a bygythiadau mewn perthynas â’r hinsawdd.


Mae Masnach Deg yn gwarantu’r canlynol:

• Pris isafswm
• Premiwm ychwanegol
• Amddiffyniad yn yr amgylchedd
• Amodau gwaith diogel a theg
• Penderfyniadau democrataidd

Mae tua 2 filiwn o ffermwyr a gweithwyr Masnach Deg ar draws 70 o wledydd, gyda dros 37,000 o gynhyrchion Masnach Deg yn cael eu gwerthu mewn dros 140 o wledydd.

Y Pythefnos Masnach Deg yma, rydym yn gofyn i’r cyhoedd i:

  • Prynu cynhyrchion Masnach Deg wrth fusnesau a siopau groser Masnach Deg lleol.
  • Mynychu digwyddiadau Pythefnos Masnach Deg a drefnir gan eich cymunedau lleol (gweler y ddolen i’r digwyddiadau uchod).
  • Rhannu gyda phobl eraill y pwysigrwydd o Fasnach Deg a pham bod pawb yn haeddu Cyflog Teg.
  • Gofyn i’w Haelodau o’r Senedd (ASau) lleol i ddangos eu hymrwymiad i Fasnach Deg.