Gweithiwch gyda ni

Llun/Photo: Fair Trade Wales Cymru Masnach Deg

Mae Cymru Masnach Deg yn arbenigwyr mewn Masnach Deg a chyfiawnder masnach ac yn cyfrannu at drafodaethau ehangach ynghylch hawliau dynol, cynaliadwyedd, llywodraethu byd-eang a chydraddoldeb. Gallwn helpu eich sefydliad i godi ymwybyddiaeth o Fasnach Deg drwy ein cwrs Dyfodol Cynaliadwy, sgyrsiau, darlithoedd a seminarau, ac rydym wedi gweithio gyda phawb, o fusnesau a chyrff anllywodraethol i brifysgolion.

Gallwn hefyd gynorthwyo sefydliadau i fodloni saith nod llesiant Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus weithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac i atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.

Cysylltwch â ni i ddarganfod beth allwn ei gynnig i’ch sefydliad.

“Rhoddodd y ddarlith a gofnodwyd inni gan Cymru Masnach Deg fewnwelediad go iawn i’n myfyrwyr o waith y mudiad Masnach Deg a’r heriau sy’n dal i fodoli i wella hawliau ac amodau gweithwyr ledled y byd. Roedd yn wych gweithio gyda’r staff cyfeillgar, gwybodus Cymru Masnach Deg i lunio’r cynnwys hwn ar gyfer ein modiwl dysgu ar-lein ar gyflenwi bwyd cynaliadwy.”

Richard Kipling,

Darlithydd, BioInnovation Wales, Prifysgol Aberystwyth