Gwirfoddoli gyda ni

Llun / Photo: Nick Treharne

Ni allem wneud ein gwaith heb mae cefnogaeth ein gwirfoddolwyr yn hanfodol i ni a gall fod yn ffordd wych o ymuno â’r mudiad Masnach Deg. Mae dwy ffordd y gallwch wirfoddoli gyda ni: trwy eich grŵp lleol neu’n uniongyrchol gyda Cymru Masnach Deg, fel rhan o gynllun gwirfoddoli Hub Cymru Affrica.

Efallai bod gennych chi brofiad mewn maes fel codi arian neu gyfathrebu neu efallai yr hoffech chi ennill sgiliau a gwybodaeth werthfawr am undod byd-eang. Beth bynnag eich sefyllfa, gall eich amser a’ch sgiliau fod yn amhrisiadwy i ni ac mae’n rhywbeth y gallwch fod yn falch o’i gael ar eich CV. Pan fyddwch chi’n gwirfoddoli i ni, byddwch chi hefyd yn cwrdd â phobl hyfryd o’n grwpiau ledled Cymru.

Darllenwch ein straeon gwirfoddolwyr isod a chysylltwch â chynllun gwirfoddoli Hub Cymru Affrica os hoffech chi ymuno â’n tîm.

Straeon gwirfoddoli

Tamika

Gwirfoddolodd Tamiika gyda Hub Cymru Africa, yn benodol o fewn tîm Cymru Masnach Deg, yn helpu ni i drefnu ein digwyddiad dathlu 15bl fel Cenedl masnach Deg.

“Cefais y pleser o wirfoddoli gyda Cymru Masnach Deg, a chwblhau fy ngradd meistr mewn Amgylchedd a Datblygu o Brifysgol Caerdydd ar yr un pryd. Roedd y ddau yn cyd-fynd yn dda â’i gilydd, gan fy mod yn gallu profi sut roedd damcaniaethau ac egwyddorion oedd yn cael eu dysgu yn yr ystafell ddosbarth o amgylch masnach foesegol, cyfiawnder cymdeithasol, a chyfiawnder amgylcheddol yn trosi i broblemau’r byd go iawn a gweithio tuag at atebion.

Un o’r agweddau mwyaf buddiol o fy nghysylltiad â Cymru Masnach Deg oedd dathlu 15 mlynedd o Gymru fel Cenedl Masnach Deg. Roedd helpu i gydlynu’r digwyddiad dathlu 15 mlynedd yn y Senedd yn hynod o foddhaol, wrth i mi ymgysylltu â gwirfoddolwyr cymunedol sydd wedi bod yn eiriol dros Fasnach Deg ers blynyddoedd. Helpodd i gadarnhau pwysigrwydd gweithredu ar y cyd tuag at nodau a rennir.

Mae gwirfoddoli gyda Cymru Masnach Deg wedi bod yn rhan annatod o fy nhwf academaidd a phersonol yn ogystal â fy nhaith broffesiynol. Fe wnaeth fy ngrymuso i archwilio cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol yn hyderus wrth i mi ddefnyddio’r sgiliau rwyf wedi eu dysgu a’u datblygu drwy wirfoddoli, sydd yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, sgiliau cyfathrebu a thasgau gweinyddol cyffredinol. Roedd gweithio mewn tîm bach yn golygu fy mod yn gallu adeiladu perthnasoedd proffesiynol cryf, rhywbeth oedd o werth gwirioneddol i mi mewn cyfnod o weithio o bell ar ôl COVID.

Mae wedi atgyfnerthu fy ymrwymiad i eiriol dros gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol ac ar yr un pryd, fy arfogi gyda’r sgiliau i sicrhau newid ystyrlon. Rydw i’n ddiolchgar dros ben am y cyfle i fod yn rhan o Gymru Masnach Deg, am y bobl rydw i wedi’u cyfarfod, ac am y gwersi rydw i wedi’u dysgu.”

Maddy

Llun/Photo Cymru Masnach Deg Fair Trade Wales

Mae Madeline Jewell yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd a daeth i wirfoddoli gyda ni ym mis Chwefror 2020.

“Fel rhan o fy nghwrs Daearyddiaeth a Chynllunio, roeddwn i eisiau dysgu mwy am faterion byd-eang a datblygu rhyngwladol ac roeddwn i’n awyddus i gymryd rhan felly dechreuais leoliad fel gwirfoddolwr swyddfa ar gyfer Cymru Masnach Deg, gan wirfoddoli ddau fore pob wythnos. Roedd yn gyfle gwerthfawr i ddatblygu fy sgiliau gweinyddu a threfnu tra hefyd yn cael blas ar amgylchedd gwaith swyddfa.”

“Roeddwn i’n rhan o Bythefnos Masnach Deg gan ddarparu cyfle i straeon gael eu rhannu am y bobl sy’n gweithio’n galed i gynhyrchu nwyddau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol yn aml, fel coffi a siocled ac roedd hi’n gymaint o fraint cael bod yn rhan o helpu i baratoi ar gyfer y digwyddiadau yma. Fe wnaeth y profiad fy herio i ystyried fy mhatrymau siopa a ffordd o fyw ac rwy’n deal nawr sut y gallwn gyda’n gilydd fod yn gweithio gyda’n gilydd i wneud newidiadau sy’n cyfrannu tuag at fyd tecach.”

Tara

Llun/Photo Nick Treharne

Mae Tara Fisher yn actifydd Masnach Deg a gwirfoddolodd yng Nghynhadledd Ryngwladol Trefi Masnach Deg (IFTTC) ym mis Hydref 2019.

“Rydw i wedi bod yn wirfoddolwr i Fasnach Deg am dros 10 mlynedd a phan symudais i Lanelli, fe wnes i ymgyrchu i’w helpu i ddod yn Dref Masnach Deg cyn ddod yn wirfoddolwr i Cymru Masnach Deg. Mae pawb sydd yn ymwneud â Masnach Deg yn wirfoddolwyr fel fi ac mae’n rhywbeth rwy’n falch iawn ohono. Rwy’n siarad gyda phobl er mwyn dysgu ymwybyddiaeth Masnach Deg ac annog mwy a mwy o bobl i brynu cynhyrchion Masnach Deg i helpu ffermwyr.”

“Fel rhan o’r IFTTC, roeddwn yn helpu i sefydlu’r neuadd, yn cyfarfod a chyfarch gwesteion, nodi ar fap o ble roedd pobl wedi dod, gwerthu crysau-T, bod ar ddyletswydd i helpu cynrychiolwyr a defnyddio fy ieithoedd i gyfieithu i bobl. Roedd y gynhadledd mor ddefnyddiol i mi ond hefyd yn llawer iawn o hwyl a gwnes i lawer o ffrindiau o’r digwyddiad hwnnw. Fy nghamau a nodau nesaf yw parhau i ddatblygu syniadau a gymerwyd o’r gynhadledd i wneud y bobl yn fy nghymuned yn wirioneddol ymwybodol o Fasnach Deg.”

Os ydych chi wedi’ch ysbrydoli gan straeon Maddie a Tara ac yr hoffech chi wirfoddoli gyda ni, cysylltwch â ni trwy raglen wirfoddoli Hub Cymru Africa.