Maddy: Stori Gwirfoddoli

Medi 1, 2020
Llun/Photo Cymru Masnach Deg Fair Trade Wales

Mae Madeline Jewell yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd, a daeth i wirfoddoli gyda ni ym mis Chwefror 2020. Darllen ei stori:

Pam oeddech chi eisiau gwirfoddoli gyda ni?

Fel rhan o fy nghwrs Daearyddiaeth a Chynllunio, dewisais fodiwl oedd yn gofyn am wirfoddoli neu brofiad gwaith fel rhan o’u hastudiaethau. Roeddwn yn gwybod fy mod i eisiau cyfrannu at sefydliad sy’n ymdrechu i wneud gwahaniaeth positif yng Nghaerdydd a thu hwnt.

Ar ôl clywed am waith Hub Cymru Africa a’r cyfleoedd y buasent yn eu darparu ar gyfer dysgu mwy am faterion byd-eang a datblygu rhyngwladol, roeddwn yn awyddus i gymryd rhan.

Beth oeddech chi’n ei wneud?

Roeddwn yn gweithio fel gwirfoddolwr swyddfa, oedd yn gyfle gwerthfawr i ddatblygu fy sgiliau gweinyddu a threfnu ac ar yr un pryd, i gael blas ar weithio mewn swyddfa. Roeddwn yn rhan o’r ‘Pythefnos Masnach Deg’, oedd yn rhoi cyfle i storïau gael eu rhannu am y bobl sy’n gweithio’n galed i gynhyrchu nwyddau rydym yn aml yn eu cymryd yn ganiataol, fel coffi a siocled. Roedd yn gymaint o fraint ceisio helpu i baratoi ar gyfer y digwyddiadau, yn ogystal â gallu eu mwynhau a’u profi ar y diwrnod.

Ochr yn ochr â dysgu sgiliau allweddol a fyddai’n ddefnyddiol yn y gweithle, fel y logisteg y tu ôl i drefnu digwyddiad sy’n gysylltiedig â gwaith a sut i ddefnyddio taenlenni’n effeithiol, fe wnaeth y profiad fy herio i ystyried fy mhatrymau prynu a ffordd o fyw. Roedd fy lleoliad gwaith yn rhedeg drwy gydol tymor y Gwanwyn, lle roeddwn yn gwirfoddoli dau fore’r wythnos.

Unrhyw uchafbwyntiau?

Un digwyddiad yn benodol, y digwyddiad Masnach Deg ‘She Deserves’ Fairtrade: Women in Leadership’; roedd hwn yn rhywbeth y gwahoddais fy ffrindiau roeddwn yn rhannu tŷ gyda nhw yn y Brifysgol iddo. Creodd y storïau argraff fawr arnynt, a chawsant eu hysbrydoli’n fawr gan y storïau, a gafodd eu rhannu gan fenywod sy’n ymladd anghydraddoldeb ac sydd â rolau arwain allweddol yn eu cymunedau lleol.  Er llawenydd iddyn nhw, cawsant fynd â rhywfaint o samplau blasus o gynhyrchion Masnach Deg gartref gyda nhw hefyd!

Sut mae gwirfoddoli gyda Cymru Masnach Deg wedi eich newid chi?  

Mae’r profiad wedi fy herio i ystyried fy mhatrymau prynu a ffordd o fyw, ac rwy’n fwy ymwybodol o’r pwysigrwydd o wneud dewisiadau moesegol. Rwy’n fwy ymwybodol o’r symbol Masnach Deg cyfarwydd pan rydw i allan ac erbyn hyn, rwy’n teimlo’n fwy gwybodus am sut y gallaf wneud ychydig o newidiadau bob dydd yn fy nghymuned fy hun.

Mae gwirfoddoli gyda Cymru Masnach Deg a Hub Cymru Africa yn fwy cyffredinol, wedi rhoi gobaith go iawn i mi bod cydweithio i wneud gwahaniaeth positif ble bynnag posibl, yn arwain at greu newidiadau mawr i ansawdd bywyd pobl yn y pen draw, yn lleol ac yn fyd-eang.

Beth ydych chi wedi’i ddysgu o’r profiad hwn?

Mae gennyf ddealltwriaeth newydd o sut y gallwn wneud newidiadau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl eraill. Roedd yn fraint gallu rhyngweithio gydag amrywiaeth o bobl, o Weinidogion y Senedd, i blant ysgol oedd yn mynychu Cynhadledd Masnach Deg, a rhannu pwysigrwydd Masnach Deg gyda nhw. Mae’r profiad wedi rhoi cipolwg i mi ar sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i wneud newidiadau sy’n cyfrannu tuag at fyd tecach.

Ydy stori Maddy wedi eich ysbrydoli chi? Mae Hub Cymru Africa yn cynnig sawl cyfle i wirfoddoli a chael profiad rhagorol o weithio ym maes datblygu rhyngwladol. Edrychwch ar eu tudalen gwirfoddoli i gael gwybod mwy, ac i gael gwybod sut i gysylltu!