Ffasiwn Teg? Sgwrs am ffasiwn, hil a chyfiawnder yr hinsawdd
Mai 31, 2023Mae Masnach Deg Cymru, mewn partneriaeth â Phanel Is-Sahara Affrica (SSAP) yn cynnal digwyddiad arloesol ar-lein ar gyfer y Pythefnos Masnach Deg.
2 Mawrth 2022, 6:30pm – 7.30pm, ar-lein.
Siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau: Ophelia Dos Santos, Actifydd Cyfiawnder yr Hinsawdd a Dylunydd Tecstilau Cymreig, Simmone Ahiaku, Ymgyrchydd, Actifydd ac Addysgwr Cyfiawnder yr Hinsawdd a Subindu Gharkel, Uwch-arweinydd Cotwm a Thecstilau Masnach Deg. Hwyluswyd gan Aileen Burmeister, Masnach Deg Cymru.
Dyluniwr tecstilau yw Ophelia Dos Santos, sy’n eirioli dros gyfiawnder yr hinsawdd a chynaladwyedd yn y byd ffasiwn. Gan ganolbwyntio ar ymdrech ar y cyd, nod Ophelia yw ysbrydoli newid amgylcheddol a chymdeithasol drwy annog pobl i feddwl am sut rydym yn prynu, yn ailddefnyddio ac yn taflu ffasiwn. Drwy ei gweithdai a’i gwasanaethau brodwaith ac uwchgylchu; mae’n addysgu pobl am sut gall newidiadau bach greu effaith fawr.
Ymgyrchydd, daearyddwr, awdur ac addysgwr yw Simmone Ahiaku sydd wedi cyfrannu at waith amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol ym Mryste, Llundain a ledled y DU. Mae Simmone wedi gweithio ar ymgyrchoedd llygredd aer, dadwisgiad a chyfiawnder yr hinsawdd. Ar hyn o bryd mae’n defnyddio gweithdai wedi’u hwyluso i archwilio gwladychiaeth yr hinsawdd ac enghreifftiau o wydnwch a symudiadau’r hinsawdd o’r gorffennol a’r presennol.
Mae gan Subindu Garkhel brofiad ymarferol o weithio yn y diwydiant dillad yn India, Bangladesh a’r DU. Gyda gradd meistr mewn datblygiad cymdeithasol o’r brif Brifysgol Ddatblygu, mae’n cyflwyno safbwynt a synhwyred o heriau a realiti’r ddau fyd. Mae’n frwd dros ddull cyfranogol a chynhwysol i ddatblygu. Mae hyn wedi’i alinio ag egwyddorion Masnach Deg lle mae’n gweithio. Hi yw’r arweinydd byd-eang ar y cotwm a’r tecstilau yma. Mae hefyd ar y bwrdd fel aelod cyngor ymgynghorol yn y Gyfnewidfa Decstilau ac mae’n rhan o bwyllgorau arbenigol a gweithgorau allanol amrywiol yn y sector.
Mae yna docynnau am ddim neu gallwch brynu tocyn drwy roi rhodd tuag at gost y digwyddiad hwn a chefnogi cymunedau yng Nghymru i hyrwyddo Masnach Deg.
Cefndir
Mae’r diwydiant ffasiwn byd-eang yn werth $2.5 triliwn ac mae’n cyfrannu’n sylweddol tuag y newid yn yr hinsawdd. Mae’n cyfrif am 8-10% o allyriadau carbon y byd, a bron 20% o ddŵr gwastraff. Mae hefyd yn cael effaith fawr ar y bobl sy’n cynhyrchu ein dillad, ac mae wedi bod yn dibynnu ar ecsbloetio gweithwyr dillad ers y cychwyn cyntaf.
O’r 74 miliwn o weithwyr tecstilau, gan gynnwys gweithwyr dillad ym mhedwar ban byd, mae 80% yn fenywod croenliw a gall rhai ennill £20 yr wythnos yn unig. “Mae’r ecsbloetio economaidd y mae ffasiwn cyflym yn dibynnu arno’n dibynnu ar etifeddiaeth gwladychiaeth. O’r 1500au tan ganol yr 20fed ganrif, roedd imperialaeth Ewropeaidd yn ffordd o greu gwladwriaethau echdynnol a gormesu [cymunedau sydd wedi’u radicaleiddio]”.
Mae oddeutu 350 miliwn o bobl yn gweithio yn y sector cotwm, gyda’r mwyafrif mewn gwledydd incwm isel fel Canol a Gorllewin Asia ac Affrica. Lansiwyd cotwm Masnach Deg i dynnu sylw at y ffermwyr hyn sy’n aml yn anweladwy, wedi’u hesgeuluso ac yn dlawd ar ddiwedd cadwyn cyflenwi cotwm hir a chymhleth. Mae Masnach Deg wedi rhoi offerynnau ar waith i roi llwybr amgen i’r ffermwyr hyn fasnachu gydag incwm uwch, mwy sefydlog.
Am Pythefnos Masnach Deg
Cynhelir y Pythefnos Masnach Deg rhwng 21 Chwefror a 6 Mawrth ac mae’n ddigwyddiad cenedlaethol sy’n cael ei gynnal bob blwyddyn i ddathlu’r cynhyrchwyr sy’n cynhyrchu ein bwyd, ein diodydd, ein dillad a mwy. Mae hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith maent yn ei wneud a sut y gallwn ni eu cefnogi.