Cenedl Masnach Deg – ein holiadur

Mehefin 15, 2018

Os ydych chi wedi bod yn talu unrhyw sylw, efallai eich bod chi wedi sylwi bod 6 Mehefin yn dathlu 10 mlynedd ers i Gymru gael ei datgan yn Genedl Masnach Deg!

Trefnwyd partļon, rhannwyd atgofion, dymunwyd negeseuon pen-blwydd hapus a daeth y dathlu i ben gyda Llwybr Masnach Deg. Roedd hi’n ddiwrnod gwych a difyr. Ond yr hyn nad ydych chi’n ei wybod efallai, y tu ôl i’r llenni. ydy ein bod ni wedi bod yn meddwl nid yn unig am y 10 mlynedd diwethaf, ond am y dyfodol hefyd.

Mae deng mlynedd yn amser maith, ac mae llawer o bethau wedi newid yn yr arena Masnach Deg ac yn y byd yn gyffredinol. Mae ymgyrchoedd dros gyfiawnder yn heriol bob amser. Felly, rydym yn manteisio ar y cyfle hwn i ofyn i chi sut y gallai Cenedl Masnach Deg edrych yn y dyfodol, a beth sy’n wych am yr hyn sydd wedi cael ei wneud yn barod. Bydd hyn yn ein helpu ni i gynllunio ar gyfer y dyfodol, ac i fwydo mewn i drafodaethau rhyngwladol ar y pwnc.

Llenwch ein harolwg. Mae’n cymryd pedwar munud os ydych chi’n gyflym, gyda lle i ychwanegu mwy os oes gennych chi lawer i’w ddweud.

Mae’r arolwg yn cau am hanner dydd ar ddydd Iau, 26 Gorffennaf.