Adlewyrchu ar y Symposiwm Masnach Deg Rhyngwladol

Gorffennaf 27, 2018

Mae’r Symposiwm Masnach Deg Rhyngwladol yn gasgliad o academyddion ac ymarferwyr sydd â diddordeb mewn materion Masnach Deg. Mae’r symposiwm yn cael ei gynnal pob 3 i 4 blynedd, ac mae’n le i rannu’r ymchwil a’r canfyddiadau diweddaraf, ac i lansio mentrau a syniadau Masnach Deg newydd. Cynhaliwyd symposiwm 2018 yn Portsmouth, ac roeddwn i’n ddigon ffodus i allu mynd i ymuno.

Yn y mudiad Masnach Deg, fel unrhyw ymgyrch dros gyfiawnder, mae’n gallu bod yn anodd cynnal eich brwdfrydedd a’ch momentwm eich hun. Mae dod at eich gilydd a chwrdd â phobl eraill o wahanol leoedd sy’n gweithio tuag at yr un nodau yn ysbrydoledig bob amser. Y bore cyntaf, eisteddais i gael brecwast gyda Pedro Gamboa, o Fecsico, sy’n gweithio gyda chymunedau Maya bach i gynyddu eu bywoliaethau a’u hincwm trwy wneud crefftau â llaw. Maen nhw wedi bod yn gweithio gyda brandiau ffasiwn enwog yn gwneud bagiau, a buom yn trafod yr heriau roeddent wedi’u hwynebu ar hyd y ffordd, gan gynnwys p’un a ddylai prisiau Masnach Deg gael eu gosod ar gyfer y gwaith a gwblhawyd, neu bod yn gysylltiedig â chanran o bris gwerthu terfynol y bagiau. Cefais fy ysbrydoli.

Dim ond dechrau’r tri diwrnod o ddysgu yw hwn, yn clywed gan y cyrff Masnach Deg rhyngwladol am eu datblygiadau diweddaraf ac am eu hymchwil llawr gwlad ar yr effaith ar weithwyr a thyfwyr y diwydiannau te, blodau, gwin a choffi. Edrychom hefyd ar hanes mudiad y gweithredwyr Masnach Deg, gyda’i gydbwysedd rhwng ymgyrchu dros newid economaidd byd-eang a cheisio gwneud gwahaniaeth i fywydau cynhyrchwyr nawr. Fe wnaeth i mi ailymrwymo, unwaith eto, i fy siwrnai Masnach Deg fy hun.

Yr hyn a ddarganfyddais yw gymaint y mae Cymru yn rhan bwysig o’r darlun Masnach Deg byd-eang. Mae wedi ysbrydoli llawer o bobl a lleoedd eraill ar eu taith Masnach Deg. O Fecsico i Corea, gofynnodd pobl i mi am Gymru fel Cenedl Masnach Deg, a dywedont wrthyf sut yr oeddent wedi cael eu hysbrydoli gyda’u hymgyrchoedd Masnach Deg eu hunain oherwydd hyn. Cyfrannodd llawer o bobl at grŵp ffocws a  redais, yn holi sut y dylai Cenedl Masnach Deg edrych yn y dyfodol. Rwy’n defnyddio hyn i gyfrannu at ein hadolygiad presennol i ddyfodol Cymru fel Cenedl Masnach Deg.

Ar ddiwedd y tri diwrnod, y prif beth oedd ar feddwl pob un ohonom wrth fynd adref oedd sut i gynnal cysylltiadau gydag ymchwil Masnach Deg yn y blynyddoedd rhwng y symposiymau.

Isod, mae rhywfaint o ffyrdd a allai fod o ddiddordeb i chi:

Edrychwch ar y cyflwyniadau

Gallwch edrych ar y cyflwyniadau o’r Symposiwm ar dudalen we’r Symposiwn Masnach Deg Rhyngwladol.

Ymunwch â’r Gymdeithas Masnach Deg

Mae’r Gymdeithas Masnach Deg yn lansio cylchgrawn academaidd annibynnol newydd, sef The Journal of Fair Trade, sy’n anelu at fod yn ffynhonnell amlddisgyblaethol o ymchwil blaenllaw ar Fasnach Deg, gyda gwaith a lleisiau gan academyddion ac ymarferwyr. Y pris am ddod yn aelod o’r Gymdeithas Masnach Deg ydy £10 y flwyddyn, sydd yn rhoi mynediad ar-lein i The Journal of Fair Trade, yn ogystal â llwyfan ar gyfer rhannu syniadau beirniadol a thrafodaethau bywiog, cefnogaeth gyda mentora, gwaith golygyddol a chyfieithu i ganiatáu i leisiau newydd gael eu clywed, gwybodaeth am ddigwyddiadau Masnach Deg, cyrsiau a swyddi, a chyngor ar gynnal digwyddiadau Masnach Deg ac ar ddod o hyd i siaradwyr.

Gwnewch gwrs e-ddysgu

Mae’r wefan hon yn cynnig cyrsiau ar-lein i ddysgu mwy am Fasnach Deg mewn sawl iaith.

Porwch drwy wefan y Sefydliad Masnach Deg

Mae gan y Sefydliad Masnach Deg y manylion diweddaraf am ymchwilwyr Masnach Deg, a phapurau Masnach Deg.