Pythefnos Masnach Deg 2020 yma

Chwefror 23, 2020

Mae’r Pythefnos Masnach Deg hwn (24 Chwefror-8 Mawrth 2020) yn adrodd straeon y ffermwyr y tu ôl i’r cynnyrch rydym yn eu defnyddio bob dydd o goco i goffi.

Mae ymgyrch She Deserves Masnach De gyn tynnu sylw at ymchwil ar y sector coco yng Ngorllewin Affrica, lle caiff 60% o goco’r byd ei dyfu. Yn y Traeth Ifori, mae menywod yn gwneud 68% o’r llafur ac maent yn gyfrifol am blant a’r cartref, ond mae ganddynt lai o hawliau na dynion ac yn ennill hyd yn oed yn llai.

Yn y sector coffi, mae stori debyg, gydag oddeutu 125 miliwn o bobl ym mhedwar ban byd yn dibynnu ar goffi ar gyfer eu bywoliaethau. Ef yw’r cynnyrch amaethyddol trofannol mwyaf gwerthfawr ac sy’n cael ei fasnachu’n fwyaf eang ac mae’n bennaf yn cael ei gynhyrchu gan ffermwyr tyddynnod bach.

Nid yw llawer ohonynt yn gallu ennill bywoliaeth ddibynadwy o’r coffi maent yn ei gynhyrchu. Nid yw’n ddigon i gefnogi’r anghenion mwyaf sylfaenol megis dŵr a bwyd ffres, addysg a gofal iechyd.

Cynhelir digwyddiadau Masnach Deg mewn cymunedau ar draws y genedl: o de prynhawn i gemau pêl-droed a hufen iâ banana, yn gwahodd pobl i feddwl am yr heriau sy’n wynebu ffermwyr a gweithwyr ym mhedwar ban byd.

Meddai Aileen Burmeister, Cydlynydd Cenedlaethol Masnach Deg Cymru, “Rydym yn brwydro dros incwm byw i ddynion a menywod fel y gall cymunedau ffynnu. Pan fyddwch yn dewis Masnach Deg, mae’n golygu bod ffermwyr yn derbyn pris tecach am eu cynnyrch ac yn gallu buddsoddi yn eu ffermydd, eu pentrefi a dyfodol eu Plant.

Dros y Pythefnos Masnach Deg, gallwch glywed straeon anhygoel gan fenywod anweledig, ffermwyr a busnesau sy’n haeddu incwm byw am gynnyrch rydym yn eu defnyddio ac yn dibynnu arnynt bob dydd”;

Cefnogir Pythefnos Masnach Deg gan Lywodraeth Cymru a Hwb Cymru Affrica.