Ffasiwn Teg? Sgwrs am ffasiwn, hil a chyfiawnder yr hinsawdd

Ionawr 31, 2022

2 Mawrth 2022, 6:30pm – 7.30pm, ar-lein. Tocynnau.

SSAP logoMae Masnach Deg Cymru, mewn partneriaeth â Phanel Is-Sahara Affrica (SSAP) wedi cynnal digwyddiad arloesol ar-lein ar gyfer y Pythefnos Masnach Deg.

Siaradwyr: Ophelia Dos Santos, Actifydd Cyfiawnder yr Hinsawdd a Dylunydd Tecstilau Cymreig, Simmone Ahiaku, Ymgyrchydd, Actifydd ac Addysgwr Cyfiawnder yr Hinsawdd a Subindu Gharkel, Uwch-arweinydd Cotwm a Thecstilau Masnach Deg. Hwyluswyd gan Aileen Burmeister, Masnach Deg Cymru.

Bywgraffiadau siaradwyr

Roedd yna docynnau am ddim neu gallech brynu tocyn drwy roi rhodd tuag at gost y digwyddiad hwn a chefnogi cymunedau yng Nghymru i hyrwyddo Masnach Deg.

Cefndir

Mae’r diwydiant ffasiwn byd-eang yn werth $2.5 triliwn ac mae’n cyfrannu’n sylweddol tuag y newid yn yr hinsawdd. Mae’n cyfrif am 8-10% o allyriadau carbon y byd, a bron 20% o ddŵr gwastraff. Mae hefyd yn cael effaith fawr ar y bobl sy’n cynhyrchu ein dillad, ac mae wedi bod yn dibynnu ar ecsbloetio gweithwyr dillad ers y cychwyn cyntaf.

O’r 74 miliwn o weithwyr tecstilau, gan gynnwys gweithwyr dillad ym mhedwar ban byd, mae 80% yn fenywod croenliw a gall rhai ennill £20 yr wythnos yn unig. “Mae’r ecsbloetio economaidd y mae ffasiwn cyflym yn dibynnu arno’n dibynnu ar etifeddiaeth gwladychiaeth. O’r 1500au tan ganol yr 20fed ganrif, roedd imperialaeth Ewropeaidd yn ffordd o greu gwladwriaethau echdynnol a gormesu [cymunedau sydd wedi’u radicaleiddio]”.

Mae oddeutu 350 miliwn o bobl yn gweithio yn y sector cotwm, gyda’r mwyafrif mewn gwledydd incwm isel fel Canol a Gorllewin Asia ac Affrica. Lansiwyd cotwm Masnach Deg i dynnu sylw at y ffermwyr hyn sy’n aml yn anweladwy, wedi’u hesgeuluso ac yn dlawd ar ddiwedd cadwyn cyflenwi cotwm hir a chymhleth. Mae Masnach Deg wedi rhoi offerynnau ar waith i roi llwybr amgen i’r ffermwyr hyn fasnachu gydag incwm uwch, mwy sefydlog.

Cynhelir y Pythefnos Masnach Deg rhwng 21 Chwefror a 6 Mawrth ac mae’n ddigwyddiad cenedlaethol sy’n cael ei gynnal bob blwyddyn i ddathlu’r cynhyrchwyr sy’n cynhyrchu ein bwyd, ein diodydd, ein dillad a mwy. Mae hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith maent yn ei wneud a sut y gallwn ni eu cefnogi.