Adrodd Straeon Masnach Deg: tu ôl i’r llen

Ionawr 9, 2023

Digwyddiad newydd cyffroes, gydag enwau mawr Masnach Deg!

Wrth i Bythefnos Masnach Deg agosáu, rydym yn cymryd golwg agosach at adrodd straeon ac yn trafod moeseg hybu yn y mudiad Masnach Deg


Bydd Liberation Foods, Shared Interest, a Transform Trade yn ymuno â ni. Bydd pob sefydliad yn trafod sut maen nhw’n adrodd eu straeon Masnach Deg a sut mae adrodd straeon wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd y drafodaeth banel yn cael ei hwyluso gan Lenshina Hines, Cadeirydd, BAFTS UK a chyd-sylfaenydd Fair a Fabulous. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau hefyd.

Bydd llawer o bobl wedi clywed am goffi a bananas Masnach Deg, ond nid ydynt yn sylweddoli mai ei ddiffiniad swyddogol yw bod ‘Masnach Deg yn bartneriaeth fasnachu sydd yn seiliedig ar ddeialog, tryloywder a pharch.  Nod y bartneriaeth yw ceisio sicrhau mwy o degwch mewn masnach ryngwladol’. Mae systemau Masnach Deg yn canolbwyntio ar ail-gydbwyso cadwyni cyflenwi a sicrhau tegwch a llais i gynhyrchwyr. Mae mwy y gall y mudiad Masnach Deg ei wneud bob amser i ganolbwyntio ar wrth-hiliaeth a’i hyrwyddo. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o Sefydliadau Masnach Deg wedi bod yn mynd ar deithiau i gael eu harwain mwy gan bartneriaid.

Cewch glywed gan sawl Sefydliad Masnach Deg am newidiadau diweddar yn y ffordd maen nhw’n cyfathrebu eu gwaith i gynulleidfaoedd y DU, a sut mae rhai o’u hymagweddau yn cysylltu â phwynt 8 Siarter Gwrth-Hiliaeth Hub Cymru Affrica: “Byddwn yn defnyddio iaith, technegau adrodd straeon, a lluniau priodol a meddylgar. Rydym yn cydnabod bod ganddynt ystyr, y gallant achosi niwed, a’u bod yn gallu atgyfnerthu hiliaeth”. 

Mae’r Bythefnos Masnach Deg yn rhedeg rhwng 27 Chwefror – 12 Mawrth 2023; os ydych chi’n ystyried sut y gallwch chi adrodd eich straeon Masnach Deg, mae’r digwyddiad hwn i chi! Fe gewch chi glywed gan rywfaint o enwau mawr y byd Masnach Deg, a chael y cyfle i ofyn eich cwestiynau hefyd.


Dewch i’n digwyddiad Adrodd Straeon Masnach Deg: tu ôl i’r llen i ddysgu fwy am sut mae sefydliadau Masnach Deg yn ail-fframio’u naratif, a sut gallwch ddysgu wrthyn nhw

Dydd Mercher 25 Ionawr, 13:00-14:30

Cael eich tocynnau nawr!