Cysylltiadau Cymunedol – Clwb Swper Masnach Deg

Chwefror 8, 2023

Yn ystod y Bythefnos Masnach Deg eleni, byddwn yn cynnal Clwb Swper Masnach Deg mewn partneriaeth ag Oasis Cardiff. Mae ein digwyddiad wedi’i ysbrydoli gan ein cred ym mhwysigrwydd bwyd, cymuned, a’n hamgylchedd.



Mae bwyd yn cysylltu ac yn meithrin ein perthnasoedd â’n gilydd a natur. Fe wnaeth y pandemig amharu ar y cysylltiadau hyn, ac rydym eisiau dathlu bod gyda’n gilydd a rhannu iaith gyffredinol bwyd.

Mae Oasis Cardiff yn gweithio i gefnogi cynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y gymuned leol ac yn rhoi llais i’w straeon, eu profiadau a’u diwylliannau. Mae’r ganolfan yn darparu sesiynau cynghori dyddiol, fforymau eiriolaeth, sesiynau Saesneg, sesiynau creadigol a chwaraeon a llawer mwy. Mae Oasis yn gwneud gwaith ymgysylltu lleol a chymunedol hefyd, fel eu clwb swper cartref wythnosol, sy’n cynnwys dysgl o wahanol ddiwylliant bob wythnos!

Ymunwch â ni am noson o fwyd a straeon Masnach Deg blasus, wrth i ni ddysgu am y bobl sy’n cynhyrchu’r bwyd a’r diod rydyn ni’n eu bwyta bob dydd, a sut y gall hyn ein helpu i uniaethu a chysylltu â’n gilydd. Mae tocynnau’n costio rhwng £10-20, a bydd yr elw’n mynd i Fanc Bwyd Caerdydd.

Mwynhewch swper dau gwrs figan gyda diodydd, wedi’i ysbrydoli o bob rhan o’r byd, sy’n defnyddio cynhwysion Masnach Deg gan fwyaf. Wyddoch chi fod Masnach Deg yn fwy na bananas a choffi? Drwy ymuno â ni, byddwch yn blasu amrywiaeth o gynhwysion Masnach Deg and dysgu am bwysigrwydd cyfiawnder masnach a chymdeithasol yn uniongyrchol wrth gynhyrchwyr Masnach Deg.


Bwydlen

Diod
Hibiscus and Rosehip ‘Ade

Prif Gwrs
Dhal Bresych Gwynion a Chennin

Dhal blodfresych a chennin tymhorol – â llaeth cnau coco; reis moron a syltana; kohlrabi wedi’u piclo

Figan; Heb Glwten
YN CYNNWYS: MWSTARD, SYLLFITAU

Pwdin
Crymbl Siocled Tywyll a Rhiwbob
Rhiwbob tymhorol wedi’i stiwio gyda reis brown, ceirch a chrymbl siocled tywyll ar ei ben. Yn cael ei weini gydag iogwrt cnau cyll a chnau cyll wedi’u tostio.

FIGAN; HEB GLWTEN
YN CYNNWYS; CNAU

Aperitif
Jenipher’s Coffi/ Rose Tea

Felly, dewch i’n digwyddiad Cysylltiadau Cymunedol: Clwb Swper Masnach Deg, a dathlu gyda ni yn ystod y Bythefnos Masnach Deg eleni.



Mae’r Bythefnos Masnach Deg yn rhedeg rhwng 27 Chwefror – 12 Mawrth.

Bob blwyddyn, mae’r Bythefnos Masnach Deg yn rhoi cyfle i bobl ar draws Cymru i ddathlu cyflawniadau Masnach Deg a dysgu mwy am y gwahaniaeth mae Masnach Deg yn ei wneud. Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein holl gynlluniau yma.