15 ffordd o ddathlu Masnach Deg y 15 mlynedd yma

Awst 21, 2023
Photo of attendees at the Fair Trade Nation celebration event, standing behind a banner which reads "Wales is a Fair Trade Nation".

Eleni, rydym yn falch o ddathlu 15 mlynedd fel Cenedl Masnach Deg.

Fe wnaethom ddechrau ar y flwyddyn o ddathliadau gyda digwyddiad llwyddiannus a gynhaliwyd yn y Senedd, lle daeth aelodau’r cyhoedd, Aelodau’r Senedd, ymgyrchwyr cymunedol Masnach Deg a mwy at ei gilydd i lawenhau yn yr holl gyflawniadau y mae Cymru wedi’u gwneud fel Cenedl Masnach Deg, ac i edrych ymlaen at y dyfodol. Dim ond dechrau nodi blwyddyn o ddathliadau oedd y digwyddiad, a dyma 15 ffordd y gallwch dathlu Masnach Deg a cymryd rhan i gefnogi cenhadaeth Cymru Masnach Deg:


  1. Ydych chi’n cynnal digwyddiad? Llogwch Pop Cycle 

Mae Pop Cycle yn creu lolïau iâ 100% Fegan a Masnach Deg wedi’u gwneud â llaw, sydd yn cael eu danfon atoch chi gan rywun ar feic tair olwyn.  Y rhan orau yw y gallwch logi Pop Cycle ar gyfer digwyddiadau hefyd! Os oes gennych ddigwyddiad yn dod i fyny eleni, byddwch yn siŵr o wneud i’ch gwesteion wenu, wrth iddynt fwyta lolïau iâ Masnach Deg blasus, wedi’u gwneud â llaw.

  1. Cefnogi busnesau lleol

Mae siopa’n lleol yn ffordd wych o gefnogi busnesau lleol, ac i deimlo’n rhan o’ch cymuned leol! Beth am edrych ar siopau fel Fair and Fabulous yn Nyffryn Teifi neu Karry’s Deli yn y Barri, sy’n brolio ystod eang o gynhyrchion Masnach Deg, ac sy’n cael eu rhedeg gan bobl sy’n angerddol am greu byd mwy cynaliadwy a theg. Gweler rhestr lawn o’n manwerthwyr Masnach Deg.

  1. Mynd i stondin ‘pop-up’ Jenipher’s Coffi 

Mae gan Jenipher’s Coffi stondin ‘pop-up’ newydd cyffrous ym Mhorthcawl, a pa ffordd well o gefnogi coffi Masnach Deg, trwy fwynhau coffi braf ger y traeth. Trwy brynu Coffi Masnach Deg, fel Jenipher’s Coffi, rydych chi’n sicrhau pris teg, mwy o barch tuag at yr amgylchedd, a phremiwm sy’n cael ei ail-fuddsoddi mewn cymunedau. Mae’n sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill.

  1. Ymuno â Grŵp Ymgyrchu Masnach Deg lleol 

Os yw Masnach Deg yng Nghymru yn rhywbeth newydd i chi, mae gennym lawer o grwpiau Masnach Deg yn ymgyrchu dros system fasnachu fwy teg a chynaliadwy. Gall ymladd dros newid byd-eang ar ei ben ei hun fod yn frawychus, ond trwy gymryd rhan mewn grŵp cymunedol, gallwch ymgyrchu gyda’ch gilydd tuag at weledigaeth gyffredin o’r dyfodol.

Grŵp Masnach Deg Castellnewydd Emlyn yn chwarae Pucket gyda fynychwyr.
  1. Cerdded ar hyd rhywfaint o Ffyrdd Cymru Masnach Deg 

Cyfres o deithiau cerdded yw’r Ffyrdd Masnach Deg, sydd yn amrywio o ran hyd ac anhawster.  Mae pob un wedi’i adeiladu o amgylch Masnach Deg. Beth am ddathlu 15 mlynedd fel Cenedl Masnach Deg, trwy gerdded ar hyd un o’r ffyrdd? Mae Ffordd Masnach Deg Sir Gaerfyrddin yn ffordd brydferth trwy Ddyffryn Tywi, sy’n cysylltu Trefi Masnach Deg Rhydaman a Sir Gaerfyrddin. Gallwch ddod o hyd i’r ffyrdd yma.

  1. Bore coffi/gwerthu cacennau Masnach Deg 

Mae boreau coffi a chacennau yn ffordd wych o arddangos ystod eang o gynhyrchion Masnach Deg, gan gynnwys coffi, te, siwgr, siocled a byrbrydau amrywiol.

  1. Masnach Deg? Ffasiwn Teg?

Nid ynghylch coffi a bananas yn unig mae Masnach Deg, ond mae prynu cynnyrch Masnach Deg yn mynd cyn belled â pha ddillad rydych chi’n eu gwisgo ac yn dewis eu bwyta. Mae Masnach Deg yn helpu i gefnogi gweithwyr dillad ar draws y byd, ac mae 80% ohonynt yn fenywod. Yn ystod y bythefnos Fasnach Deg ddiwethaf, fe wnaethom gynnal trafodaeth banel mewn partneriaeth â SSAP (Panel Cynghori Is-Sahara) ar ffasiwn, hil a chyfiawnder hinsawdd. Daliwch i fyny ar y drafodaeth i ddysgu mwy.

  1. Gêm Bêl-droed Masnach Deg 

Mae’r ymgyrch Masnach Deg mewn Pêl-droed yn tynnu sylw at yr anghydraddoldebau sy’n bodoli o fewn y diwydiant rwber. Dros flwyddyn nesaf y dathliadau Masnach Deg, beth am i chi gael grŵp at ei gilydd o’ch cymuned leol i chwarae gêm gyfeillgar o bêl-droed gyda phêl-droed Masnach Deg?

  1. Nofio oer

Rydym yn ffodus dros ben yng Nghymru o gael cymuned mor fywiog a chreadigol o ymgyrchwyr Masnach Deg, sy’n parhau i feddwl am ffyrdd arloesol o ddathlu a hyrwyddo’r mudiad Masnach Deg. Mae Grŵp Masnach Deg Castellnewydd Emlyn wedi creu traddodiad o ddod â’r Bythefnos Fasnach Deg i ben gyda nofio oer ar y traeth, i dynnu sylw at fygythiad newid hinsawdd ar ffermwyr a gweithwyr ar draws y byd. Beth am gael eich dillad nofio ymlaen a chymryd dip?

  1. Noson Wîn Masnach Deg

Oeddech chi’n gwybod eich bod chi’n gallu cael gwin Masnach Deg hefyd? Trwy ddewis gwin Masnach Deg, rydych chi’n dewis cefnogi prosiectau sydd o fudd i gynhyrchwyr a’u hanwyliaid! Gan ei bod hi’n flwyddyn o ddathlu, beth gwell i’w wneud na chodi gwydr dros noson o win Masnach Deg? Fel arall, gallwch roi gwin Masnach Deg fel anrheg ar gyfer yr achlysuron arbennig hynny. Gwelwch lle i brynu gwinoedd Masnach Deg – mae opsiynau di-alcohol ar gael hefyd.

  1.  Noson Ffilm Masnach Deg 

Mae llawer o wybodaeth am Fasnach Deg ar gael, ond weithiau, gall darllen y cyfan fod ychydig yn llethol. Yn ffodus, mae yna lawer o ffilmiau a fideos am ddim ar gael i’w gwylio ar-lein, sy’n archwilio’r cyrhaeddiad a’r gwahaniaeth y gall Masnach Deg ei wneud. Beth am drefnu sgrinio un o’r ffilmiau hwn o fewn eich cymuned leol, i annog trafodaeth am Fasnach Deg. Gallwch ddod o hyd i’r rhestr o ffilmiau yma.

  1. Noson Gwis Masnach Deg

Trefnwch noson gwis gyda’ch grŵp cymunedol lleol neu yn yr ysgol. Mae cwis yn ffordd berffaith o gael pobl i ymgysylltu â’r hyn mae Masnach Deg yn ei olygu, a phopeth mae’n helpu i’w gyflawni. Mae gan y Sefydliad Masnach Deg gwis yn barod i fynd hyd yn oed.

  1. Blasu coffi Masnach Deg newydd Bay Coffee Roasters 

Yn swatio ar Arfordir Ceredigion, mae Bay Coffee yn enillydd Gwobr Great Taste, ac yn rhostio amrywiaeth o goffi Masnach Deg, pob un wedi’i gynhyrchu gan 100% o ynni adnewyddadwy. Yn ein digwyddiad dathlu 15 mlynedd yn y Senedd, lansiodd Bay Coffee Roasters eu Coffi Masnach Deg newydd, gyda blasau papaya, croissant almwn ac afal; nid yw’n un i’w golli.

  1. Tired Mums Coffee

Mae Tired Mums Coffee yn ymdrechu i adeiladu cymuned gynhwysol, groesawgar ac onest, i bob mam deimlo fel eu bod yn cael eu cefnogi. Mae ganddynt amrywiaeth o flendiau Coffi Masnach Deg ar gael i’w prynu ar-lein, gyda’r holl elw yn mynd i geisio helpu mamau yn y gymuned.  Edrychwch ar eu cynhyrchion a’u hymgyrchoedd.

  1. Coginio gyda chynnyrch Masnach Deg 

Mae cymaint o gynnyrch Masnach Deg ar gael erbyn hyn, fel ei bod yn hawdd cynnwys Masnach Deg yn y rhan fwyaf o brydau bwyd. Dydy dathlu ddim yn golygu eich bod chi’n gorfod mynychu digwyddiad, ond gall fod mor syml a phwysig â bod yn ymwybodol o beth rydyn ni’n ei roi ar y bwrdd cinio. Os ydych chi’n ansicr ble i ddechrau, edrychwch ar y rhestr ddefnyddiol hon o ryseitiau Masnach Deg hawdd.


Allwn ni ddim aros i weld beth fyddwch chi’n ei wneud i ddathlu 15 mlynedd ers i Gymru ddod yn Genedl Masnach Deg! Dyma i’r dyfodol, ac rydym yn edrych ymlaen at yr holl bethau y gallwn eu cyflawni fel Cenedl Masnach Deg dros y 15 mlynedd nesaf.