Ble i brynu

Mae’r rhan fwyaf o’r siopau bellach yn gwerthu cynnyrch Masnach Deg. Efallai y bydd eich siop leol neu farchnad ffermwyr yn gwerthu rhai eitemau gan gynnwys te, coffi, siwgr, siocled a ffrwythau.

Edrychwch am y Nod Masnach Deg neu’r Warant Sefydliad Manach Deg y Byd. Mae’n werth gofyn os na allwch ddod o hyd i rywbeth – oherwydd efallai y bydd y siop yn gallu ei archebu i chi.

Caffael

Os ydych am brynu nwyddau Masnach De gar raddfa fwy ar gyfer eich gwaith neu eich sefydliad, yna edrychwch ar ein canllawiau prynu i’ch helpu gyda’ch anghenion caffael, neu edrychwch ar ganllawiau prynu’r Sefydliad Masnach Deg.

Ar-lein

Os ydych am siopa ar-lein am eich nwyddau Masnach Deg, rydym yn argymell JTS, Premcrest a’r Ethical Superstore sy’n gwerthu amrywiaeth o gynnyrch gyda chludiant eco i’ch drws. I ganfod cyflenwyr yn ôl y math o gynnyrch, edrychwch ar dudalennau cynnyrch y Sefydliad Masnach Deg.

Masnachwyr

Mae yna rai masnachwyr Masnach Deg annibynnol rhagorol ledled Cymru sy’n gwerthu amrywiaeth eang o gynnyrch Masnach Deg gan gynnwys bwyd, dillad ac anrhegion. Gallwch gael rhagor o wybodaeth amdanynt isod. Ar gyfer siopai a chyflenwyr ledled y DU, mynnwch gipolwg ar Rwydwaith Masnach Deg BAFTS y DU, sef rhwydwaith o siopao a chyflenwyr annibynnol sy’n ymrwymedig i hyrwyddo masnach Masnach Deg yn y DU.

Rydym hefyd yn tynnu sylw at wybodaeth am gynnyrch Masnach Deg ar ein blog.