Cymunedau lleol

Llun/Photo Cymru Masnach Deg Fair Trade Wales

Beth yw cymuned Masnach Deg?

Grŵp lleol sydd wedi ymrwymo i gefnogi Masnach Deg yw cymuned Masnach Deg. Mae’r gymuned yn cefnogi cynhyrchwyr a chymunedau mewn gwledydd incwm isel a chanolig. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu:

  • Bydd y gymuned yn deall y cysyniad o Fasnach Deg;
  • Bydd cynhyrchion Masnach Deg ar gael yn eang ac yn cael eu prynu a’u defnyddio ledled y gymuned;
  • Bydd ymrwymiad wedi’i wneud i gynyddu gwerthiant ac ymwybyddiaeth trwy weithgareddau hyrwyddo ac addysgol.
  • Mae pwyllgor llywio yn bodoli i adnewyddu statws Cymuned Masnach Deg

Mae’r cynllun statws Cymuned Masnach Deg yn cael ei rhedeg gan y Sefydliad Masnach Deg.

Ymunwch â grŵp Masnach Deg

Ydych chi am gymryd rhan mewn Masnach Deg yn eich ardal chi? Mae yna lawer o grwpiau lleol yn ymgyrchu ar Fasnach Deg ledled Cymru ac maen nhw bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr newydd. Mae grwpiau Masnach Deg yn cynrychioli croestoriad o’r gymuned ac yn gweithio’n galed i ennill a chadw statws Masnach Deg ar gyfer eu hardal. Fel gwirfoddolwr, byddwch chi’n dod i adnabod eich cymuned yn well trwy gymryd rhan mewn ymgyrchoedd a gweithgareddau a chyfarfod yn rheolaidd ag aelodau eraill y grŵp i drefnu digwyddiadau.

Dewch o hyd i’ch grŵp lleol

Llun / Photo Cymru Masnach Deg Fair Trade Wales

Ar gyfer grwpiau

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwn gefnogi eich grŵp Masnach Deg leol. Mae ein cylchlythyr grwpiau yn eich diweddaru chi â’r newyddion Masnach Deg diweddaraf a gallwn gynnig cefnogaeth un i un ar gyfer digwyddiadau a llywodraethu. Rydym yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd (ar-lein ac yn bersonol pan fydd yn ddiogel gwneud hynny) sy’n helpu i gadw grwpiau’n gysylltiedig ac yn gydnabyddus.

Gallwn hefyd gefnogi’ch grŵp gyda:

  • Ceisiadau statws Masnach Deg
  • Ble i brynu Masnach Deg
  • Hyrwyddo’ch grŵp a’ch gweithgareddau
  • Strwythur grŵp, llywodraethu a chyllid
  • Syniadau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau
  • Darparu adnoddau
  • Cysylltu â rhwydweithiau Masnach Deg
  • Caffael
  • Cyfathrebu

Am ragor o wybodaeth am sut y gallwn helpu, cysylltwch â ni neu edrychwch ar ein tudalen adnoddau.

Llun/Photo Cymru Masnach Deg Fair Trade Wales
  • 002

    Taflenni: Beth yw Masnach Deg?

    Taflenni am Beth yw Masnach Deg? gan Sefydliad Masnach Deg

    Cymraeg
  • 008

    Sticer: Gofynnwch am fasnach deg yma

    Gofynnwch am Masnach Deg yma. Sticer ffenest hir ddwyieithog am fusnesau i ddefnyddio er mwyn annog prynwyr i Gofyn am Masnach Deg

    Dwyieithog