Dysgu ar eich cyflymder eich hun gyda’n Cwrs Dyfodol Cynaliadwy ar-lein

Hydref 9, 2023

Cefndir i’r cwrs

Mae Cymru Masnach Deg wedi bod yn ymgyrchu i gefnogi, tyfu a hyrwyddo’r mudiad Masnach Deg ar draws Cymru ers 15 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, daeth Cymru y genedl Fasnach Deg gyntaf, a sefydlwyd trwy drefi ac ysgolion masnach deg llawr gwlad a thrwy gynyddu ymgysylltiad â phopeth masnach deg. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi dysgu’r pwysigrwydd a’r gwerth y gall ein haddysg a’n harbenigedd ei gynnig.

Gyda diddordeb cynyddol mewn cynaliadwyedd, sero net a newid yn yr hinsawdd, a’r effaith y mae’r newidiadau byd-eang hyn yn ei chael ar bob un ohonom, rydym wedi penderfynu coladu ein gwybodaeth am y maes a chreu cwrs awr o hyd, a fydd yn rhoi blas ar y pynciau beirniadol ar gyfer dyfodol cynaliadwy;

“Mae hyfforddiant Cymru Masnach Deg yn llawn ffeithiau am y pethau rydynni’n eu prynu a’r effeithiau rydyn ni’n eu cael ar y blaned, ond mae’n cael ei wneud mewn ffordd atyniadol. Oherwydd hynny, mae’n gyflwyniad gwych, bachog a hygyrch i gynaliadwyedd!”

Dr Karolina Rucinska

Sustainability Advisor | Cynghorydd Cynaliadwyedd

Cynnal Cymru – Sustain Wales

Ar gyer pwy mae’r cwrs?

Mae’r cwrs yn mynd tu hwnt i Fasnach Deg, ac yn trochi i mewn i’r pynciau allweddol a’r materion dybryd sy’n wynebu Dyfodol Cynaliadwy. Mae’r deunydd wedi’i gynllunio i fod yn hygyrch, a does dim angen cael gwybodaeth flaenorol o’r pynciau. O ganlyniad, mae’n gwrs blasu gwych i unigolion, myfyrwyr a busnesau i ddeall sut y gallant gymryd camau a gwneud cyfraniadau cadarnhaol tuag at greu dyfodol cynaliadwy. Mae’n ddefnyddiol i’r rheiny sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru, gydag esboniadau o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Sut mae’r cwrs hwn yn gweithio?

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig y cwrs ar-lein. Mae’n cynnwys tair uned: Deall Cyfrifoldeb Byd-eang, Y Pethau Rydym yn eu Prynu, a’r Cyd-destun Rhyngwladol. Mae’r cyrsiau hyn yn rhyngweithiol, gydag ystod o glipiau fideo a chynnwys ysgrifenedig i’w cwblhau ar eich cyflymder eich hun, sydd yn cymryd tuag awr i’w cwblhau. Mae’n costio £45 ac mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg (mae’n bosib cyfnewid rhyngddynt). Unwaith y bydd y cwrs yn cael ei brynu, gellir ei gwblhau ar un cyfrif Cymru Masnach Deg.

Pam rydym wedi creu’r cwrs?

Roeddem eisiau gwneud cwrs oedd yn cysylltu Cymru â’r byd, a chysylltu dadleuon lleol a chamau gweithredu bach gyda’u heffeithiau byd-eang. Trwy gynnig canllawiau, darllen pellach ac astudiaethau achos, mae’r cwrs hwn yn arfogi dysgwyr â gwybodaeth ac adnoddau i wneud dewisiadau gwell fel busnesau, unigolion a chymunedau.

Mae’r holl arian sydd yn cael ei godi drwy werthu’r cwrs hwn yn cefnogi ein gwaith ar draws Cymru yn uniongyrchol, ac yn ein galluogi i barhau i dyfu’r mudiad masnach deg.