Pythefnos Masnach Deg 2025: Dathliad o Degwch Ar Draws Cymru
Hydref 9, 2025
Llun gan elusen Love Zimbabwe: ‘Gordymaith dros Affrica’ – Gwyl Fwyd y Fenni
O drafodaethau gydag Aelodau’r Senedd i siopau dros dro myfyrwyr a rhediadau parc wedi’u tanio gan fananas, roedd Pythefnos Masnach Deg 2025 yn atgof pwerus bod tegwch yn dechrau gyda’r dewisiadau a wnawn bob dydd.
Ar draws Cymru, nododd cefnogwyr Masnach Deg y pythefnos (22 Medi – 5 Hydref) gydag egni a chreadigrwydd, gan uno cymunedau o dan thema eleni o ‘Do it Fair’ / ‘Gwnewch hi’n Deg’ – a oedd yn canolbwyntio ar hawliau ffermwyr te.
Fe wnaethom ni cychwyn yr ymgyrch bant wrth ochr Anwen, aelod gweithred y Co-op, yn Undeb Myfyrwyr Caerfyrddin i sgwrsio efo’r myfyrwyr newydd am sut y gall newidiadau bach fel dewis te neu siocled Masnach Deg greu effaith fyd-eang. Yng Nghaerdydd, fe wnaethom croesawi’r Aelodau’r Senedd i drafod ein gofynion polisi ar gyfer yr etholiadau 2026, gyda sgyrsiau’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, cyfiawnder hinsawdd a bywoliaeth deg i ffermwyr ledled y byd. Yn ddiweddarach yn y pythefnos, fe ymunon ni â Jenipher o Jenipher’s Coffi a Clare Bowman mewn digwyddiad yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o eiriolwyr Masnach Deg yn y brifddinas.
Roedden ni hefyd wrth ein bodd i weld Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt MS, yn cyhoeddi datganiad yn cefnogi Pythefnos Masnach Deg, gan atgyfnerthu ymrwymiad hirhoedlog Cymru fel Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd. Rhai o’i eiriau o’r datganiad:
“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi masnach deg a defnydd moesegol. Mae Masnach Deg yn grymuso cynhyrchwyr ledled y byd, gan helpu i ddiogelu dyfodol ein hoff fwydydd, cynhyrchion hanfodol, a’r blaned.”
Ond ymestynnodd y dathliad ledled Cymru hefyd:
- Cynhaliodd Sir Fynwy dros 30 o ddigwyddiadau, gan ddathlu’r ‘Bore Coffi Masnach Deg Mwyaf Erioed’, gan gynnwys gwasanaethau yn ysgolion a gweithdai ar-lein mewn partneriaeth gyda Maint Cymru.
- Daeth Cyngor Tref y Barri â Masnach Deg i’r sylw gyda nodwedd ar y dudalen flaen a bore coffi cymunedol a gynhaliwyd gan eu Maer lleol, y Cynghorydd Dennis Clarke.
- Mae Dinas Powys wedi bod yn brysur yn addysgu eraill ar bŵer Masnach Deg yn eu llyfrgell, eglwysi, caffis ac ysgolion cynradd lleol.
- Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn darparu diodydd poeth Masnach Deg am ddim – sy’n dal i gael eu rhoi allan tan y 12fed o Dachwedd!
- Yn Eryri, fe drafododd y ffermwr coffi Masnach Deg, Jenipher Sambazi, o’r bygythiadau parhaus o ganlyniad newid hinsawdd mewn ffermio gyda ffermwyr lleol yn yr ardal.
- Fe gynhaliodd Ysgol Gynradd Sant Aidan yn Sir Benfro gyfres o weithgareddau pêl-droed ar thema Masnach Deg, i gefnogi cynhyrchwyr Masnach Deg y peli-droed ym Mhacistan.
- Cynhaliodd Porthcawl noson Wganda mewn siop goffi lleol gyda Jenipher o Jeniphers Coffi yn gwneud ymddangosiad arbennig!
- Ymunodd grwpiau Masnach Deg Abertawe a Chlydach â’r Co-op ar gyfer digwyddiad parkrun ‘Brew It Fair’, gan gynnwys gwisgoedd banana! Hefyd, gwnaethant arddangosfa mewn llyfrgell leol i dynnu sylw at bwysigrwydd prynu te Masnach Deg.
- Cynhaliodd Tref Masnach Deg y Fenni eu digwyddiad blynyddol ‘Gordymaith dros Affrica’ drwy ganol y dref yng Ngŵyl Fwyd y Fenni. Hefyd, fe gyflwynodd nifer sôn am fasnach deg yn ei eglwysi lleol gyda digonedd o goffi a the Masnach Deg ar gael!
A llawer mwy o ymdrechion anhygoel ledled Cymru.
Mae’r digwyddiadau yma yn dangos beth sy’n bosib wrth i gymunedau ddod at ei gilydd i hyrwyddo am degwch. Mae pob tocyn raffl a werthir, pob banana Masnach Deg a roddir, a phob sgwrs am siopa moesegol yn dod ag un cam yn agosach at fyd lle mae’r cynhyrchion a brynwn yn elwa pob unigolyn sy’n rhan o’r broses.
Rydym mor ecstatig i weld yr holl ymdrech a ddangoswyd gan bawb eleni ac am roi diolch i bob gwirfoddolwr, cefnogwr a phartner a wnaeth gwneud y Bythefnos Masnach Deg eleni’n un i’w chofio. Gyda’n gilydd, rydym yn profi nad yw masnach deg dim ond mudiad – ond hefyd yn ymrwymiad rydym yn rhannu tuag at ddyfodol tecach a mwy cynaliadwy i bawb.






Mae yna dal amser i lofnodi’r ddeiseb i Fragu’n Deg.
Gofynnwch i lywodraeth y DU amddiffyn hawliau dynol y pobl sydd yn y diwydiant te, ac anrhydeddu eu hymrwymiad cyllid hinsawdd rhyngwladol.
Llofnodwch y ddeiseb heddiw.