Gogledd

  1. Siop Iechyd Dimensions

    Siop ddiwastraff ym Mangor yw Dimensions Health Store. Maent yn gwerthu te, coffi, siocledi, ffrwythau sych a bariau ffrwythau Masnach Deg.

  2. Tired Mums Coffee

    Mae Tired Mums Coffee yn ceisio hybu’r profiad mamolaeth trwy goffi sy’n blasu’n wych gyda phwrpas.

  3. Kingdom Krafts & Beacon Books

    Mae gan Ganolfan Masnach Deg Kingdom Crafts amrywiaeth eang o fwyd, anrhegion, dillad, deunydd ysgrifennu a nwyddau’r cartref Masnach Deg. Wedi’i lansio yn 2002, mae’n dymuno helpu pobl sy’n byw mewn tlodi i ennill bywoliaeth a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

  4. Bala Sport

    Cydweithfa yw Bala Sport, wedi’i sefydlu i ehangu argaeledd a defnydd peli chwaraeon Masnach Deg a gynhyrchir yn foesegol (gan ganolbwyntio ar beli troed, peli rygbi a futsals yn bennaf) yn y DU a’r tu hwnt.

  5. Health and Food Llanrwst

    Siop bwydydd cyflawn yw Health & Food Llanrwst sy’n gwerthu bwydydd cyflawn, cynnyrch ffres, cynnyrch Masnach Deg ac eco. Yn Nyffryn Conwy ar gyrion yr Wyddfa, canolfan i fyw’n well yw Health and Food!

  6. Babipur

    Siop foesegol yw Babipur i’r teulu cyfan. Mae Babipur yn credu y dylai siopa moesegol fod yn hwyl, yn Fasnach Deg a heb ecsbloetio.

  7. Cynghrair Masnach Deg Conwy

    Rydym yn cefnogi ac yn hyrwyddo
    Masnach Deg i siopau, busnesau ac ysgolion lleol yng Nghonwy.

  8. Masnach Deg Cynghrair Fflint

    Rydym yn cynnal statws Masnach Deg yr Wyddgrug drwy hyrwyddo moesau a dibenion Masnach Deg.

  9. Grŵp Masnach Deg Dinbych

    Rydym yn hyrwyddo Masnach Deg yn Ninbych.

  10. Grŵp Masnach Deg Bangor

    Mae grŵp Masnach Deg Bangor yn hyrwyddo ac yn cefnogi Masnach Deg ym Mangor.

  11. Partneriaeth Masnach Deg Ynys Môn

    We are the steering group for Anglesey’s Fairtrade County status, promoting Fair Trade across the county. We can provide Fairtrade stalls for your events.