Cymru

  1. Masnach Deg Pontypridd

    Mae Masnach Deg Pontypridd yn grŵp Masnach Deg sy’n hyrwyddo busnesau sy’n gwerthu / defnyddio cynhyrchion Masnach Deg yng nghanol tref Ponty, yn ogystal ag addysgu trigolion a gweithwyr o bob oedran ym Mhonty am Fasnach Deg, a sut y gallant fod yn ddefnyddwyr ymwybodol a moesegol.

  2. Siop Iechyd Dimensions

    Siop ddiwastraff ym Mangor yw Dimensions Health Store. Maent yn gwerthu te, coffi, siocledi, ffrwythau sych a bariau ffrwythau Masnach Deg.

  3. Aardvark Alternatives

    Mae Aardvark Alternatives yn Siop Bwyd Cyfan Annibynnol a Chanolfan Therapi yng Nghaerfyrddin, De Cymru. Maent yn gwerthu te, coffi a siocled Masnach Deg.

  4. Tired Mums Coffee

    Mae Tired Mums Coffee yn ceisio hybu’r profiad mamolaeth trwy goffi sy’n blasu’n wych gyda phwrpas.

  5. Bay Coffee Roasters

    Mae Bay Coffee Roasters yn enillydd gwobr Blas Gwych ac yn rhostio amrywiaeth o goffi Masnach Deg ger arfordir Ceredigion. Mae eu rhostio yn cael ei bweru gan ynni adnewyddadwy ac mae’n hanfodo i flasu eu coffi Masnach Deg.

  6. Daioni Organig

    Mae Daioni Organic wedi lansio ei amrywiaeth o goffi organig Masnach Deg, barod i yfed. Wedi’i gwneud a llaeth Cymraeg a choffi organig Masnach Deg o Fecsico.

  7. Fair and Fabulous

    Mae Fair and Fabulous yn darparu cynnyrch Masnach Deg a chyfeillgar i’r amgylchedd o safon, ac yn credu na ddylai siopa mewn ffordd foesegol olygu bod yn rhaid i gyfaddawdu ar ansawdd na gwasanaeth.

  8. Eighteen Rabbit

    Mae ‘Eighteen Rabbit’ yn fasnachwr annibynnol sy’n gwerthu celf, crefft ac anrhegion a fasnachir yn deg sy’n canolbwyntio ar steil a dyluniad, sy’n credu y gall pethau hardd helpu i wneud y byd yn lle gwell.

  9. Kingdom Krafts & Beacon Books

    Mae gan Ganolfan Masnach Deg Kingdom Crafts amrywiaeth eang o fwyd, anrhegion, dillad, deunydd ysgrifennu a nwyddau’r cartref Masnach Deg. Wedi’i lansio yn 2002, mae’n dymuno helpu pobl sy’n byw mewn tlodi i ennill bywoliaeth a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

  10. Bala Sport

    Cydweithfa yw Bala Sport, wedi’i sefydlu i ehangu argaeledd a defnydd peli chwaraeon Masnach Deg a gynhyrchir yn foesegol (gan ganolbwyntio ar beli troed, peli rygbi a futsals yn bennaf) yn y DU a’r tu hwnt.

  11. Health and Food Llanrwst

    Siop bwydydd cyflawn yw Health & Food Llanrwst sy’n gwerthu bwydydd cyflawn, cynnyrch ffres, cynnyrch Masnach Deg ac eco. Yn Nyffryn Conwy ar gyrion yr Wyddfa, canolfan i fyw’n well yw Health and Food!