Pythefnos Masnach Deg prysur iawn!

Mawrth 14, 2022
Screenshot of Fast Fashion event panellists

Pythefnos Masnach Deg prysur a chyffrous arall yn 2022! Diolch i bawb a ddaeth i’n digwyddiadau ac i’r holl grwpiau cymunedol a wnaeth gynnal eu digwyddiadau eu hunain. Byddwn yn arddangos ciplun o’r pethau cyffrous wnaeth ddigwydd ledled Cymru eleni. 


Masnach Deg Cymru

Ar gyfer Pythefnos Masnach Deg 2022, gwnaethom ganolbwyntio unwaith et oar gyfiawnder yr hinsawdd, gan dynnu sylw ar yr heriau cynyddol y mae’r newid yn yr hinsawdd yn eu cyflwyno i ffermwyr a gweithwyr yn y cymunedau y mae Masnach Deg yn gweithio ynddynt. Gwnaeth ein prif ddigwyddiad Ffasiwn Teg? Sgwrs am ffasiwn, hil a chyfiawnder yr hinsawdd uno tri arweinydd ysbrydolgar i siarad ar elfennau croestoriadol yr hinsawdd, hil a ffasiwn cyflym:

Gwyliwch recordiad o’r digwyddiad nawr!

Gwnaethom hefyd weithio gyda’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, gan gynnal sgwrs ar-lein am ffasiwn a’r newid yn yr hinsawdd gyda Ranga, Prif Weithredwr Dibella India ac Andy o Koolkompany. Gwrandewch ar eu sgwrs

Gwnaeth Aelodau o’r Senedd hefyd dangos eu cefnogaeth trwy lofnodi datganiad barn a gyflwynwyd gan Heledd Fychan AS.

Fforwm Masnach Deg Abertawe

Roedd Fforwm Masnach Deg Abertawe’n brysur iawn yn cynnal siop cyfnewid dillad, yn hyrwyddo ffasiwn cynaliadwy a dosbarth meistr coctels Masnach Deg! Digwyddiad gwych arall wedi’i drefnu ganddynt eleni oedd bore coffi i ddysgwyr Cymraeg yng Nghanolfan yr Amgylchedd mewn partneriaeth â Menter Iaith Abertawe.

Cystadlaethau a digwyddiadau ar-lein

Ym Mro Morgannwg, gwnaeth cynghorau lleol a grwpiau Masnach Deg ymuno i gynnal cystadleuaeth ieuenctid Masnach Deg. Roedd y gystadleuaeth yn annog pobl ifanc i fod yn greadigol a rhannu neges i ysbrydoli gweithredu er yr hinsawdd. Gwnaeth Blaenau Gwent ddewis her i blant CA1-4 ddylunio logo Masnach Deg o wastraff papur neu blastig.

Gwnaeth Sussed – i siop Fasnach Deg ym Mhorthcawl – gynnal digwyddiad ar-lein o’r enw Coffi Culture. Roedd yn cynnwys darlleniadau o’r llyfr Gorwelion Shared Horizons, a chyfraniadau gan Robert Minhinnick, Sampurna Chattarji, Christopher Meredith ac Elen Jones. Beth am wylio recordiad o’u digwyddiad? 

Y Gelli

Un o’r siopau oedd yn bartner i ni eleni oedd Eighteen Rabbit yn y Gelli. Cyn mynd i’r siop, gwnaethom gwrdd â’r grŵp lleol yr oedd ganddo stondin yn y farchnad fenyn. Yna roedd hi’n amser siopa…ynghyd â’r dewis anhygoel arferol o bopeth Masnach Deg, roedd gan Eighteen Rabbit fasged ac arddangosfa ffenest siop ddeniadol ar gyfer Pythefnos Masnach Deg. Os nad ydych eisoes wedi bod, mae’n rhaid i chi fynd!

Boreau coffi

Gwnaeth sawl grŵp drefnu boreau coffi eleni. Gwnaeth Conwy gynnal un yn y coleg lleol, Coleg Llandrillo, yn ogystal â threfnu raffl basged Masnach Deg yn y siop Fasnach Deg yn Llandudno, Kingdom Krafts

Cynhaliwyd boreau coffi hefyd gan Fforwm Masnach Deg y Fenni, Fforwm Masnach Deg Sir Fynwy a Phrifysgol Met Caerdydd – a wnaeth hefyd gynnal gêm bêl-droed Masnach Deg Fairplay!

Posteri a baneri

Os gwnaethoch deithio drwy’r brifddinas yn ystod Pythefnos Masnach Deg, efallai y byddech wedi gweld baneri Masnach Deg yn chwifio ar Gastell Caerdydd. Yn debyg yn cerdded drwy ganol Caergybi a Dinbych byddech hefyd wedi gweld “Dewis Masnach Deg” a “Tref Masnach Deg yw Dinbych”.

Castell Newydd Emlyn 

Yn olaf ar ein gwibdaith eleni oedd Fair & Fabulous, siop Fasnach Deg yng Nghastell Newydd Emlyn sy’n ganolbwynt y gymuned. Gan feddwl yn greadigol, gwnaeth y grŵp lleol drefnu digwyddiad plannu cymunedol mewn partneriaeth â sawl sefydliad arall. Roedd hi’n braf gweld ysbryd cymuned yn dod ynghyd oherwydd brwdfrydedd dros Fasnach Deg a gweithredu er yr hinsawdd.

Gwnaeth y grŵp hefyd drefnu sesiwn nofio dŵr oer a chwis mewn partneriaeth â siopau lleol yn y dref, gyda basged Fasnach Deg yn wobr.


Mae’n werth nodi nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr o bob gweithgaredd yng Nghymru yn ystod Pythefnos Masnach Deg 2022, ond yn ddewis ar hap o bethau sydd wedi digwydd yn eich cymunedau lleol.

Rydym yn gobeithio y gwnaethoch fwynhau dathlu Pythefnos Masnach Deg eleni naill ar-lein gyda ni, gyda grŵp lleol neu drwy brynu nwyddau Masnach Deg. Cymerwch ran yn y symudiad a chadwch lygad am ragor o wybodaeth am Ddiwrnod Masnach Deg y Byd – ddydd Sadwrn 14 Mai.