Masnach Deg: yr hanfodion

Ionawr 29, 2024

Mae Masnach Deg yn fudiad byd-eang sy’n rhoi pobl a’r blaned o flaen elw. Pan fydd cynhyrchwyr yn derbyn pris teg am eu nwyddau mae’n arwain at well amgylchedd gwaith a gwell ansawdd bywyd iddynt hwy a’u teuluoedd. Mae Masnach Deg yn cymryd agwedd gyfannol trwy gysylltu cynhyrchwyr a defnyddwyr trwy wneud cadwyni cyflenwi yn fwy eglur a cynnig gwell dewisiadau ar gyfer siopa’n gyfrifol. Dylai cyfiawnder, tegwch a datblygu cynaliadwy fod wrth wraidd strwythurau masnach gyfartal ac mae Masnach Deg yn bartneriaeth ar gyfer newid a datblygu trwy fasnach.

Mae Masnach Deg yn cefnogi ei phartneriaid i gymryd perchnogaeth o’u busnes ac i rymuso gweithwyr i reoli eu dyfodol eu hunain a chydweithio’n ddemocrataidd. Pan fydd hyn yn digwydd, mae cynhyrchwyr yn fwy tebygol o ddewis datblygu arferion ffermio cynaliadwy a all helpu i liniaru’r difrod parhaus a achosir gan newid hinsawdd. Mae Masnach Deg hefyd yn cefnogi prosiectau datblygu cymunedol, addysg ac iechyd a hawliau dynol i bobl yn fyd-eang.

Rydym yn gweithio gyda ac yn cydnabod dau gorff Masnach Deg rhyngwladol: Masnach Deg Rhyngwladol a Sefydliad Masnach Deg y Byd.

Pwy yw Cymru Masnach Deg?

Mae Cymru Masnach Deg yn cefnogi, tyfu a hyrwyddo’r mudiad Masnach Deg yng Nghymru.

Ers 2009, rydym ni wedi ymgyrchu dros hawliau ffermwyr a chynhyrchwyr mewn gwledydd incwm isel a chanolig sydd fel arfer yn cael eu talu’n wael ac yn byw gydag effeithiau newid hinsawdd. Credwn y dylai pob ffermwr a gweithiwr, ble bynnag y maent yn byw yn y byd, dderbyn incwm byw.

Sut gallai cymryd rhan?

  1. Ymunwch â grŵp lleol
  2. Dysgu Masnach Deg yn yr ysgol
  3. Prynu Masnach Deg
  4. Gwirfoddoli gyda ni
  5. Ceisio am ein grantiau dathlu cymunedol a ddathlwch Masnach Deg!