DU

  1. Sussed

    Siop gymunedol Masnach Deg ym Mhorthcawl, De Cymru, yw SUSSED, a sefydlwyd gan yr elusen Cymru Gynaliadwy ac sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr.

    Mae SUSSED yn arbenigo mewn cynnyrch moesegol, yn benodol, nwyddau lleol Masnach Deg, sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, sydd ddim yn cynnwys plastigion.

  2. Babipur

    Siop foesegol yw Babipur i’r teulu cyfan. Mae Babipur yn credu y dylai siopa moesegol fod yn hwyl, yn Fasnach Deg a heb ecsbloetio.

  3. Karuna Himalaya

    Mae Karuna Himalaya yn wneuthurwyr moesegol o’r DU/Cymru. Eitemau Masnach Deg dilys wedi’u gwneud â llaw o Nepal.

  4. Awesome Wales

    Awesome Wales yw’r siop gwastraff Sero cyntaf ym Mro Morgannwg. Wedi’i leoli yn Y Bari, Y Bont-faen a nawr yn Ysbyty Prifysgol Cymru Caerdydd, mae Awesome Wales yn stocio amrywiaeth o nwyddau Masnach Deg. Ewch draw i’r siop, neu ewch i’r wefan am gynnyrch ecogyfeillgar a Masnach Deg.

  5. Jenipher’s Coffi

    Mae Jenipher’s Coffi wedi ei enwi ar ôl Jenipher Wettaka, is-gadeirydd cydweithredfa o ffermwyr sy’n gweithio gyda’u gilydd ar lethrau Mt Elgon yn nwyrain Uganda i gynhyrchu ein coffi hyfryd. Wedi’i dyfu o bridd folcanig ffrwythlon, mae ein coffi Arabica o safon yn cael ei gynhyrchu’n organig ac i safonau Masnach Deg.

  6. Siop Werdd Canolfan yr Amgylchedd

    Mae Siop Werdd Canolfan yr Amgylchedd wedi bod yn darparu cynnyrch cartref, bwyd a chrefftau gwyrdd, Masnach Deg a heb greulondeb i’r gymuned ers sawl blwyddyn ac mae’n gartref i orsaf ail-lenwi gyntaf Abertawe.

  7. Gardd y Ddraig

    Agorwyd Gardd y Ddraig yn 2014 gyda ffocws ar Fasnach Deg a’r amgylchedd. Ers hynny, mae wedi ffynnu gan werthu llyfrau, anrhegion a bwyd Masnach Deg, hadau, planhigion a llysiau ffres.

  8. Cynghrair Masnach Deg Conwy

    Rydym yn cefnogi ac yn hyrwyddo
    Masnach Deg i siopau, busnesau ac ysgolion lleol yng Nghonwy.

  9. Masnach Deg Castell Newydd Emlyn

    Grŵp i gefnogi gweithgareddau Masnach Deg yng Nghastell Newydd Emlyn.

  10. Cyngor Tref Llanilltud Fawr

    Tref Masnach Deg yw Llanilltud Fawr sy’n ymrwymedig i gefnogi Masnach Deg.

  11. Grŵp Masnach Deg Sir Gâr

    Rydym yn gweithio i gefnogi a datblygu’r symudiad Masnach Deg.

  12. Masnach Deg Cynghrair Fflint

    Rydym yn cynnal statws Masnach Deg yr Wyddgrug drwy hyrwyddo moesau a dibenion Masnach Deg.