Sefydliadau

  1. Health and Food Llanrwst

    Siop bwydydd cyflawn yw Health & Food Llanrwst sy’n gwerthu bwydydd cyflawn, cynnyrch ffres, cynnyrch Masnach Deg ac eco. Yn Nyffryn Conwy ar gyrion yr Wyddfa, canolfan i fyw’n well yw Health and Food!

  2. Jenipher’s Coffi

    Mae Jenipher’s Coffi wedi ei enwi ar ôl Jenipher Wettaka, is-gadeirydd cydweithredfa o ffermwyr sy’n gweithio gyda’u gilydd ar lethrau Mt Elgon yn nwyrain Uganda i gynhyrchu ein coffi hyfryd. Wedi’i dyfu o bridd folcanig ffrwythlon, mae ein coffi Arabica o safon yn cael ei gynhyrchu’n organig ac i safonau Masnach Deg.

  3. Karry’s Deli

    Karry’s Deli yw deli cyntaf De Cymru sydd yn hollol seiliedig ar blanhigion yng nghalon Bro Morgannwg. Wedi’i leoli yn Y Bari, maent yn stocio amrywiaeth o nwyddau Masnach Deg. Ewch draw i’r siop, neu i’r gwefan am eich nwyddau hinsawdd-cyfeillgar a Masnach Deg.

  4. Karuna Himalaya

    Mae Karuna Himalaya yn wneuthurwyr moesegol o’r DU/Cymru. Eitemau Masnach Deg dilys wedi’u gwneud â llaw o Nepal.

  5. Kingdom Krafts & Beacon Books

    Mae gan Ganolfan Masnach Deg Kingdom Crafts amrywiaeth eang o fwyd, anrhegion, dillad, deunydd ysgrifennu a nwyddau’r cartref Masnach Deg. Wedi’i lansio yn 2002, mae’n dymuno helpu pobl sy’n byw mewn tlodi i ennill bywoliaeth a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

  6. Koolskools

    Cyflenwi Dillad Ysgol Moesegol ac Iwnifformau Cotwm Masnach Deg
    Tegwch, ansawdd a fforddiadwyedd yw egwyddor Koolskools.

  7. Grŵp Masnach Deg Llandrindod

    Grŵp bach o bobl leol ydyn ni sy’n gweithio i hyrwyddo Masnach Deg yn yr ardal ac yn helpu i gynnal Llandrindod fel Tref Masnach Deg.

  8. Fforwm Masnach Deg Sir Fynwy

    Mae’r fforwm yn cwrdd yn rheolaidd i drefnu digwyddiadau Masnach Deg ac mae’n gweithio gyda grwpiau gwirfoddol eraill i ddarparu cymorth ac arlwyaeth Masnach Deg.

  9. Tref Masnach Deg Porthcawl

    Rydym yn hyrwyddo Masnach Deg ym Mhorthcawl.

  10. Sussed

    Siop gymunedol Masnach Deg ym Mhorthcawl, De Cymru, yw SUSSED, a sefydlwyd gan yr elusen Cymru Gynaliadwy ac sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr.

    Mae SUSSED yn arbenigo mewn cynnyrch moesegol, yn benodol, nwyddau lleol Masnach Deg, sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, sydd ddim yn cynnwys plastigion.