Mae’r Fforwm yn hyrwyddo Masnach Deg a gwerthu a defnyddio cynnyrch Masnach Deg gan fusnesau a sefydliadau lleol, gan drefnu digwyddiadau yn ystod Pythefnos Masnach Deg bob blwyddyn.
Tref Masnach Deg swyddogol yw Cas-gwent ac rydym yn annog unigolion a busnesau yng Nghas-gwent i helpu i wneud gwahaniaeth i’r byd drwy ddod yn Fasnach Deg.
Mae’r fforwm yn cwrdd yn rheolaidd i drefnu digwyddiadau Masnach Deg ac mae’n gweithio gyda grwpiau gwirfoddol eraill i ddarparu cymorth ac arlwyaeth Masnach Deg.
Agorwyd Gardd y Ddraig yn 2014 gyda ffocws ar Fasnach Deg a’r amgylchedd. Ers hynny, mae wedi ffynnu gan werthu llyfrau, anrhegion a bwyd Masnach Deg, hadau, planhigion a llysiau ffres.
Siop bwydydd cyflawn yw Health & Food Llanrwst sy’n gwerthu bwydydd cyflawn, cynnyrch ffres, cynnyrch Masnach Deg ac eco. Yn Nyffryn Conwy ar gyrion yr Wyddfa, canolfan i fyw’n well yw Health and Food!